Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 15 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:32

 

3.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cefnogi Myfyrwyr Cymreig - wedi’i ohirio tan 2 Hydref

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol: dogfen ymgynghori a gyhoeddwyd ar 20 Medi

 

Dogfen Ategol

Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol
http://wales.gov.uk/consultations/equality/frameworkforactionconsultation/?lang=cy

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:47

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Canlyniadau TGAU Saesneg Iaith 2012

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:12

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyngor Sir Ynys Môn

Dogfen Ategol

Cyngor Sir Ynys Mon - Gwella Llywodraethau Corfforaethol - Adroddiad Cynnydd gan Gomisiynwyr Llywodraeth Cymru i'r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau

http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2012/09/14/adroddiad-comisiynwyr-chwarter-5.pdf

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:49

 

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Cynllun llaeth – y wybodaeth ddiweddaraf ar gefnogaeth i’r diwydiant llaeth

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:25

 

(15 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio

NDM5012 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mehefin 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).


Dogfennau Ategol

I weld copi o’r Bil ewch i:

 

Dogfennau'r Bil — Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio 2012-13 — Senedd y DU

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:57

 

NDM5012 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

9.

Dadl ar Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Adroddiad gan y Grŵp Cynghori Annibynnol

NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Grwp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol.

Dogfennau Ategol

Gellir gweld y ddogfen Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol drwy’r linc a ganlyn:

http://cymru.gov.uk/topics/planning/planningresearch/publishedresearch/towardsawelshplanningact/?lang=cy

Agweddau’r cyhoedd tuag at y system gynllunio yng Nghymru


Dull Newydd o Reoli Datblygu yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu system achredu ar gyfer asiantau cynllunio.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella capasiti’r system gynllunio drwy ddatblygu un Gwasanaeth Cyngor a Hyfforddiant Cynllunio Cenedlaethol i gynorthwyo adrannau cynllunio lleol i hyfforddi a datblygu eu staff.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth yr oedi sylweddol gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno ei Bil Cynllunio.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17:00

 

NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol.


Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu system achredu ar gyfer asiantau cynllunio.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella capasiti’r system gynllunio drwy ddatblygu un Gwasanaeth Cyngor a Hyfforddiant Cynllunio Cenedlaethol i gynorthwyo adrannau cynllunio lleol i hyfforddi a datblygu eu staff.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

12

0

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth yr oedi sylweddol gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno ei Bil Cynllunio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

33

56

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu system achredu ar gyfer asiantau cynllunio.

Yn gresynu wrth yr oedi sylweddol gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno ei Bil Cynllunio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd y cyfnod pleidleisio am 17:43

 

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: