Diweddariad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Annwyl gyfaill

 

Gweler isod y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol hyd yn hyn eleni, a'r hyn sydd i ddod ym mis Mawrth.

 

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Rydym ar hyn o bryd yn galw am dystiolaeth i lywio ein gwaith ar anghydraddoldebau o ran iechyd meddwl. Mae croeso i bawb roi eu barn - y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig yw dydd Iau 24 Chwefror.

Byddwn yn dechrau cymryd tystiolaeth lafar yn ddiweddarach y tymor hwn.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23

 

Buom yn craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar 13 Ionawr 2022, a chyhoeddwyd ein hadroddiad ar 4 Chwefror 2022.

 

Bu’r Senedd yn trafod y gyllideb ddrafft ar 8 Chwefror 2022 (Gweler y trawsgrifiad, gwyliwch y Cyfarfod eto ar senedd.tv, neu darllenwch y datganiad i'r cyfryngau sy’n crynhoi ein barn ni a barn pwyllgorau eraill y Senedd)

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal

Rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad i lywio’r broses cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal:

·         Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (16 Rhagfyr 2021). Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad ar 3 Chwefror 2022.)

·         Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol cyntaf a’r ail Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (15 Chwefror 2022)

 

Cynhaliodd y Senedd ddadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 15 Chwefror 2022 (gweler y trawsgrifiad, gwyliwch eto ar senedd.tv, neu dysgwch ragor am y broses cydsyniad deddfwriaethol.)

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Ar ôl gweithio gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gasglu tystiolaeth, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau ar 15 Chwefror 2022. Darllenwch yr adroddiad a darganfod mwy am y broses cydsyniad deddfwriaethol.

 

Cynhaliodd y Senedd ddadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 15 Chwefror 2022 (gweler y trawsgrifiad, neu gwyliwch eto ar senedd.tv)

 

 

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai

Cynhaliwyd sesiynau tystiolaeth ar ein hymchwiliad i ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai yn ein cyfarfodydd ar 27 Ionawr, ar 10 Chwefror ac ar 14 Chwefror.

Byddwn yn clywed gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddarach y tymor hwn.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth

Fe wnaethom orffen clywed tystiolaeth ar 10 Chwefror 2022 gyda sesiwn gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rydyn ni nawr yn ystyried yr holl dystiolaeth a gawsom, a byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn fuan. Yn y cyfamser, gallwch ddarllen crynodeb o gyfweliadau a nodiadau grwpiau ffocws gyda phobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth (neu sy’n gofalu am bobl sy’n aros).

Iechyd menywod a merched

Byddwn yn cynnal sesiwn untro ar iechyd menywod a merched ar 10 Mawrth, ac yn edrych yn fanwl ar dystiolaeth ar gyfer sefydlu cynllun iechyd menywod a merched a'r hyn y dylai ei gynnwys.

Gweithgareddau eraill y Pwyllgor

Gallwch ddod o hyd i fanylion am waith y Pwyllgor hyd yma, a'i flaenraglen waith ar ein gwefan. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter @SeneddIechyd.

Rydych yn cael y neges e-bost hon gan eich bod wedi gofyn yn flaenorol am gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.

Os nad ydych yn dymuno cael yr hysbysiadau hyn mwyach, rhowch wybod i ni yn SeneddIechyd@senedd.cymru.

 

 

Yn gywir

 

Health and Social Care Committee update

Dear colleague

 

Please see below update on the Health and Social Care Committee’s work so far this year, and what is coming up in March.

 

Mental Health Inequalities

We’re currently calling for evidence to inform our work on mental health inequalities. Everyone is welcome to share their views - the closing date for written submissions is Thursday 24 February.

We’ll start taking oral evidence later this term.

Scrutiny of the Welsh Government Draft Budget 2022-23

 

We scrutinised the Welsh Government Draft Budget on 13 January 2022, and published our report on 4 February 2022.

 

The Senedd debated the draft budget on 8 February 2022 (See the transcript, watch back on senedd.tv, or read a media release summarising our views and those of other Senedd committees)

 

Legislative Consent Memoranda (LCM) for the Health and Care Bill

We have published two reports to inform the legislative consent process for the Health and Care Bill:

·         Report on the LCM (16 December 2021). The Welsh Government responded on 3 February 2022)

·         Report on the first and second supplementary LCMs (15 February 2022

 

 

 

 

 

The Senedd debated the LCM on 15 February 2022 (see the transcript, watch back on senedd.tv, or find out more about the legislative consent process.)

 

 

 

Legislative Consent Memorandum for the Nationality and Borders Bill

After working with the Children, Young People and Education Committee to gather evidence, we published a report on the Legislative Consent Memorandum for the Nationality and Borders Bill on 15 February 2022. Read the report and find out more about the legislative consent process.

 

The Senedd debated the LCM on 15 February 2022 (see the transcript, or watch back on senedd.tv)

 

Hospital discharge and its impact on patient flow through hospitals

We held evidence sessions on our inquiry into hospital discharge and its impact on patient flow through hospitals at our meetings of 27 January, 10 February and 14 February.

We’ll be hearing from the Minister for Health and Social Services and the Deputy Minister for Social Services later this term.

Impact of the waiting times backlog on people in Wales who are waiting for diagnosis or treatment

We finished taking evidence on 10 February 2022 with a session with the Minister for Health and Social Services.

We’re now considering all of the evidence we’ve received, and will publish a report soon. In the meantime, you can read a summary of interviews and focus groups with people in Wales who are waiting for diagnosis or treatment (or who are caring for people who are waiting).

 

Women and girls’ health

We’ll be holding a one off session on women and girls’ health on 10 March, exploring the evidence for a women and girls health plan and what it should include.

Other Committee activity

You can find details of our work to date, and our upcoming work programme on our website. You can also follow us on Twitter at @seneddhealth.

You are receiving this email as you have previously asked to be kept up to date with our work.

If you no longer wish to receive these notifications, please let us know at SeneddHealth@senedd.wales.

 

 

Kind regards