<OpeningPara>Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor
Iechyd a Diogelwch i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif ar faterion penodol. Mae hyn yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd
meddwl ac iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal
cymdeithasol.</OpeningPara>
<OpeningPara>Mae gan y Pwyllgor chwe aelod a ddaw
o’r gwahanol bleidiau sy’n cael eu cynrychioli yn y Senedd. Caiff ei gadeirio
gan Russell George AS.</OpeningPara>
<OpeningPara>Mae rhagor o wybodaeth isod am y
Pwyllgor, ei aelodau, a’r rhestr o feysydd y mae’n eu
trafod.</OpeningPara>
Newyddion
<news>Mae’r Pwyllgor yn gofyn i bobl rannu eu
syniadau erbyn 26 Awst ar gyfer cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol y gellid eu defnyddio yn ein sesiwn i graffu ar waith y gweinidog
ar 15 Medi</news><link>https://senedd.cymru/pwyllgorau/y-pwyllgor-iechyd-a-gofal-cymdeithasol/gofynnwch-gwestiwn-i-r-gweinidog-iechyd-a-gwasanaethau-cymdeithasol/</link>
<news>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ‘rhyddhau
cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai’ ddydd
Mercher 15 Mehefin. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ddydd Iau 28
Gorffennaf.</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38333</link>
<news>Lansiodd y Pwyllgor ei ymgynghoriad ar
ddeintyddiaeth ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022. Y dyddiad cau ar gyfer
tystiolaeth ysgrifenedig yw dydd Gwener, 16 Medi
2022</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39744</link>
<news>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y
gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru ddydd Gwener 1 Gorffennaf
2022</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39629</link>
<news>Bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar ddydd Iau
15 Medi</news><link> ieListDocuments.aspx?CId=737&MId=12965&Ver=4</link>
<news>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ‘Aros yn
iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru’ ar ddydd
Iau 7 Ebrill 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ddydd Llun 30 Mai
2022. Cynhaliwyd dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29
Mehefin.</news><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38257</link>
Gwaith Cyfredol
<inquiry>Gwaith craffu cyffredinol ar waith
Gweinidogion sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol<inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=37781</link>
<inquiry>Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol
Cymru</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39795</link>
<inquiry>Deintyddiaeth</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=39744</link>
<inquiry>Fframweithiau Cyffredin - Y Chweched
Senedd</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38285</link>
<inquiry>Iechyd menywod a
merched</inquiry><link>
mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38809</link>
<inquiry>Anghydraddoldebau iechyd
meddwl</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38553</link>
<inquiry>Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros
ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu
driniaeth</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38257</link>
<inquiry>Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith
hynny ar y llif cleifion drwy
ysbytai</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38333</link>
<inquiry>Craffu ar Gynllun y Gaeaf ar gyfer Iechyd
a Gofal Cymdeithasol 2021 i 2022 Llywodraeth
Cymru</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38432</link>
<inquiry>Effaith pandemig COVID-19, a'i reolaeth,
ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Y Chweched
Senedd</inquiry><link>mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38251</link>