Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo

Cafodd Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo (y Bil) ei gyflwyno yn Nhŷr Cyffredin ar 30 Ionawr 2025.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben yw gwneud darpariaeth ynghylch diogelwch ffiniau; gwneud darpariaeth ynghylch mewnfudo a lloches; gwneud darpariaeth ynghylch rhannu data tollau a data cofrestru ôl-gerbydau; gwneud darpariaeth ynghylch gwrthrychau i’w defnyddio mewn troseddau difrifol; gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion atal troseddau difrifol; gwneud darpariaeth ynghylch ffioedd a delir mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth, y cymaroldeb neu’r asesiad o gymwysterau; a dibenion cysylltiedig.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Diogelwch y Ffin, Lloches a Mewnfudo yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Hydref 2025.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Chwefror 2025

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 201KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 17 Chwefror 2025.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 2 Mai 2025 (PDF 42KB).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 178KB) ar 1 Mai 2025. Ymatebodd (PDF 173KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 17 Mehefin 2025.

 

Cyhoeddodd y  Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad (PDF 290KB) ar 2 Mai 2025.

 

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad (PDF 218KB) ar 2 Mai 2025.

 

 

Cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ysgrifennu ar y cyd at Lywodraeth Cymru (PDF 103KB) ac at randdeiliaid penodol (PDF 112KB), i geisio barn ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae eu hymatebion ar gael isod:

 

>>>> 

>>>Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru (Saesneg yn unig) - 27 Mawrth 2025 (PDF 34KB)

>>>Consortiwm Plant Ffoaduriaid a Mudwyr (Saesneg yn unig) - 27 Mawrth 2025 (PDF 211KB)

>>>Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (Saesneg yn unig) - 31 Mawrth 2025 (PDF 328KB)

>>>Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig) – 31 March 2025 (PDF 733KB)

>>>Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – 31 March 2025 (PDF 268KB)

>>>Llywodraeth Cymru – 2 Ebrill 2025 (PDF 171KB)

<<< 

 

Gohebiaeth

>>>> 

>>> Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip – 11 Ebrill (PDF 157KB)

>>>Llythyr at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – 27 Mawrth 2025 (PDF 74KB)

<<< 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/02/2025

Dogfennau