Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE

Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE

Y cefndir

Ers mis Ionawr 2021, mae’r berthynas rhwng y DU a’r UE wedi bod yn seiliedig ar gytundeb y daethpwyd iddo ym mis Rhagfyr 2020, y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Rhaid i’r DU a’r UE adolygu gweithrediad y cytundeb erbyn 2026, gyda thrafodaethau’n debygol o gael eu cynnal drwy gydol 2025.

 

Mae pwyllgorau’r Senedd am glywed gan y cyhoedd, sefydliadau, a rhanddeiliaid yng Nghymru am sut mae trefniadau’r DU a’r UE ar ôl Brexit wedi effeithio arnynt hyd yn hyn, a’u blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. 

 

Gan adeiladu ar waith y maent eisoes wedi'i wneud, mae'r pwyllgorau a restrir isod yn casglu tystiolaeth ar sut mae'r cytundeb yn gweithio yng Nghymru i sicrhau bod safbwynt Cymru yn cael ei gynnwys yn y broses adolygu. 

 

>>>> 

>>>Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol;

>>>Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith;

>>>Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig;

>>>Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

<<< 

 

Cylch gorchwyl

Byddai’r pwyllgorau’n croesawu eich barn ar:

>>>> 

>>>eich profiadau o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ers iddo ddod i rym;

>>>meysydd cydweithredu rhwng y DU a’r UE a gaiff eu cynnwys yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a meysydd na chânt eu cynnwys;

>>>effeithiolrwydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn ymarferol, gan gynnwys a yw unrhyw faterion gweithredu wedi effeithio arnoch;

>>>rhannau o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu nad ydynt wedi’u gweithredu’n llawn, er enghraifft, cyfranogiad y DU yn rhaglenni’r UE neu gydnabod cymwysterau proffesiynol gan y ddwy ochr;

>>>canlyniadau anfwriadol yr ydych wedi'u profi; a

>>>newidiadau i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yr hoffech eu gweld. 

<<< 

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gefndirol am y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a Chymru ar wefan Ymchwil y Senedd.

 

 Gwaith ymgysylltu

Ar ran y Pwyllgor, cynhaliodd Ymchwil y Senedd seminar i randdeiliaid ar yr Adolygiad o Weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, trefniadau ar ôl Brexit a blaenoriaethau’r DU a’r UE yn y dyfodol, i lywio ymatebion rhanddeiliaid i’r ymgynghoriad ar y cyd ar yr Adolygiad o Weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Ymunodd Aelodau o’r Senedd o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, a Chysylltiadau Rhyngwladol, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig â’r sesiwn i siarad â rhanddeiliaid am ddiben yr ymchwiliad a gwaith y pwyllgorau ar y materion hyn hyd yma.

 

Cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad eu hadroddiad ar 10 Medi 2025.(PDF 3,454KB). Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i'r adroddiad ar 29 Hydref 2025.

 

Erthygl Ymchwil y Senedd: Adolygu'r cytundeb Brexit: Pedair blynedd gyntaf y Cytundeb Masnach a Chydweithredu o safbwynt Cymru

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/08/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau