A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?

Inquiry2

 

YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/vtvsOcrmC_I

MAE FERSIWN HAWDD EI DARLLEN AR GAEL (PDF 790KB)

Mae gwybodaeth am yr ymchwiliad hefyd ar gael yn fformat Microsoft Word.

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg ac i ba raddau mae darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Yn yr ymchwiliad hwn, hoffai’r Pwyllgor ddeall sut y gall plant a phobl ifanc sy’n niwrowahanol, neu sydd ag anableddau corfforol, anableddau synhwyraidd neu anableddau dysgu gael mynediad at bob agwedd ar addysg a gofal plant. 

Yn benodol:

  • I ba raddau y mae plant a dysgwyr yn gallu cael mynediad at bob rhan o ddarpariaeth gofal plant ac addysg ar hyn o bryd, gan gynnwys y ffordd y caiff y cwricwlwm ei addysgu yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol. 
  • I ba raddau y mae plant a phobl ifanc wedi’u heithrio o agweddau penodol ar addysg neu ofal plant oherwydd eu hanabledd neu niwrowahaniaeth. 
  • I ba raddau y mae teuluoedd a phlant yn teimlo bod gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol neu wahaniaethu yn seiliedig ar anabledd wedi effeithio arnynt.
  • Effaith unrhyw ddiffyg mynediad neu fynediad cyfyngedig ar iechyd meddwl a llesiant plentyn neu berson ifanc, yn ogystal ag ar ganlyniadau addysgol.
  • Y rhwystrau sy’n atal ysgolion a darparwyr gofal plant rhag cynnig darpariaeth hygyrch.
  • I ba raddau yr ymgynghorir â phlant anabl a phlant niwrowahanol a'u teuluoedd am y dewisiadau addysg neu ofal plant sydd ar gael iddynt, ac i ba raddau y maent yn cael eu hysbysu ynghylch y dewisiadau hynny.
  • A yw rhieni plant anabl a phlant niwrowahanol, a'r plant eu hunain, yn cael gwybodaeth a chymorth effeithiol gan awdurdodau lleol ac ysgolion.
  • A oes gan blant anabl a niwrowahanol, a rhieni’r plant hyn, yr un lefel o ddewis â phlant a rhieni eraill, a pha faterion sy'n effeithio ar y dewis sydd ar gael o ran ysgolion neu ofal plant.
  • I ba raddau y mae’r ddarpariaeth ar gyfer plant sydd â gwahanol fathau o anableddau yn ddigonol.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud yng nghyd-destun Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.


Sut rydym yn casglu ein tystiolaeth:

Tystiolaeth lafar

Rhwng mis Mai 2023 a mis Rhagfyr 2023, gwnaethon gynnal tair sesiwn ar ddeg er mwyn casglu tystiolaeth lafar. Mae rhagor o fanylion am bob sesiwn ar gael ar y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen hon. Ar 27 Medi cynhaliwyd digwyddiad i randdeiliaid, gyda’r naill ddigwyddiad wyneb yn wyneb (PDF187KB) a'r llall yn rhithwir (PDF 172KB).

Yn ganolog i'r ymchwiliad oedd profiad byw, ac fe gynhaliodd y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gyfweliadau teuluol gyda rhieni, gofalwyr ac, o bryd i'w gilydd, gyda phlant. Cafodd dros 40 o deuluoedd eu cyfweld. Mae nodyn cryno (PDF 236KB) ar gael gan gynnwys fersiynau hawdd eu darllen (PDF 5MB), a fersiynau argraffadwy (PDF 18MB).

At hynny, sefydlwyd grŵp cynghori ar-lein i drafod y dystiolaeth a gafwyd. Cyfarfu dair gwaith i drafod yr ymchwiliad hwn ac unwaith i fwydo i'r ymchwiliad ar ddiwygiadau addysg, gan dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud ag ADY.


Ymweliadau

Ymwelodd y Pwyllgor â phum ysgol ledled Cymru ac fe siaradodd yr Aelodau â staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr. Paratowyd nodyn ar gyfer pob ymweliad: Nodyn Ysgol 1 (PDF 212KB), Nodyn Ysgol 2 (PDF 196KB), Nodyn Ysgol 3 (PDF 154KB), Nodyn Ysgol 4 (PDF 146KB) a Nodyn Ysgol 5 (PDF 183KB).

Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod â rhieni, gofalwyr a sefydliadau yr ymwelwyd â hwy, dyma restr lawn a nodiadau o'r sesiynau:

Sesiwn grŵp ffocws gyda Sparkle (PDF 224KB) 15 Medi

Sesiwn grŵp ffocws gyda Gofal Plant ASD Oakhill (PDF 188KB) 15 Medi

Ymweliad â Rainbows ASD (PDF 181KB) – 9 Hydref


Gohebiaeth i Lywodraeth Cymru

Gwnaethom ysgrifennu at Weinidog yr Economi (PDF 202KB) yn tynnu sylw at yr effaith ar allu rhieni a gofalwyr i weithio, ac at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd (PDF 211KB) yn tynnu sylw at y modd y mae diffyg teithio hygyrch, cynhwysol a fforddiadwy i ddysgwyr yn creu rhwystrau i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd gael mynediad at addysg a gofal plant. Cafwyd ymatebion gan y Gweinidog (PDF 194KB) a'r Dirprwy Weinidog (PDF 466KB)

 

Ymgynghoriad

Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 11 Mai 2023. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Medi 2023. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.

 

Ymchwiliad i Ddiwygiadau Addysg

Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad dros dymor y Senedd, hefyd, i weithredu diwygiadau addysg, gan gynnwys edrych ar weithredu'r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol. At hynny, bydd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad hwn sy'n ymwneud â'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei hystyried fel rhan o'r ymchwiliad i ddiwygio addysg.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau