Dyled ac effaith costau byw cynyddol
Dyled ac effaith costau byw cynyddol
Inquiry5
Gyda gofidiau
ariannol yn broblem wirioneddol i gynifer o bobl Cymru roedd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol yn gwneud gwaith dilynol ar ddyled ac effaith costau byw
cynyddol. Roedd y Pwyllgor yn ailedrych ar rai o’r themâu a oedd yn codi yn
ystod ei ymchwiliad blaenorol i ddyled
a'r pandemig ac yn edrych yn fanwl ar effeithiolrwydd yr ymateb i'r
sefyllfa bresennol o ran polisi.
Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl yr
ymchwiliad oedd ystyried:
>>>>
>>>Y
blaenoriaethau y mae angen iddynt gael eu hadlewyrchu yng Nghyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 sy’n ymwneud â chostau byw cynyddol, gan
gynnwys atal a lleihau dyledion.
>>>Pa
mor effeithiol y mae cymorth gan lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU wedi bod
wrth gefnogi'r rhai mwyaf anghenus gyda phwysau costau byw, ac wrth atal a
rheoli dyled.
>>>Effaith
chwyddiant a phwysau costau byw ar y nifer sy'n manteisio ar wasanaethau cyngor
ar ddyledion, a deall goblygiadau'r galw yn y dyfodol a pholisi Llywodraeth
Cymru.
>>>Sut
mae gwahanol grwpiau'n profi pwysau costau byw, a sut mae hyn yn effeithio ar
faterion yn ymwneud â dyled. Pa mor effeithiol yw ymyriadau polisi sy'n mynd
i'r afael â'r heriau hyn, a pha newidiadau y gallai fod eu hangen i ddiwallu
anghenion grwpiau penodol.
<<<
Casglu tystiolaeth
Roedd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth yn y gwanwyn 2023.
Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu
gyfres o grwpiau ffocws ac mae eu tystiolaeth i'w gweld yma: Crynodeb
o'r gwaith ymgysylltu - Dyled ac effaith costau byw PDF 143 KB
Daeth yr ymatebion ysgrifenedig a ganlyn i law’r
Pwyllgor:
|
Cymdeithas
Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig (Saesneg yn unig) PDF 148 KB |
Rhoddodd y tystion a ganlyn dystiolaeth lafar i’r
Pwyllgor ar y dyddiadau a nodir isod. Gellir gweld trawsgrifiadau o’r holl
sesiynau tystiolaeth lafar ar dudalen we’r Pwyllgor.
|
Peter Tutton, StepChange - Pennaeth Polisi, Ymchwil a
Materion Cyhoeddus Luke Young, Cyngor ar Bopeth - Cyfarwyddwr
Cynorthwyol Steffan Evans, Sefydliad Bevan - Swyddog
Polisi ac Ymchwil |
|
|
Sarah Germain, Prif Swyddog Gweithredol -
FareShare Jen Griffiths, Rheolwr Gwasanaeth – Cyngor Sir
y Fflint Robbie Davison - Well Fed |
|
|
Nicola Field – Undebau Credyd Cymru Karen Davies – Purple Shoots Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith Cymru
- Ymddiriedolaeth Trussell |
|
Cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth Weinidogol gyda Jane Hutt
AS, ar 27 Chwefror 2023 lle
cyflwynodd y Llywodraeth y bapur yma: Tystiolaeth
gan Llywodraeth Cymru PDF 273 KB
Adodd
Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad o’r enw “Anghynaladwy: dyled
o ganlyniad i gostau byw cynyddol” ddydd Mawrth 23 Mai 2023.
Ar ôl ei gyhoeddi, dywedodd Jenny Rathbone AS,
Cadeirydd y Pwyllgor:
“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith ddinistriol ar
iechyd a chyfoeth ein cenedl ac mae gormod o aelwydydd yn wynebu caledi
annerbyniol sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.” Mae gweddill
y datganiad i'r cyfryngau i'w weld yma.
Ymateb y Llywodraeth
Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan
Lywodraeth Cymru ar 12 Gorffennaf 2023.
Cynhaliwyd dadl
yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Medi 2023.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y
Pwyllgor i dlodi tanwydd.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ymchwiliad y Pwyllgor i Ddyled a'r
Pandemig.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/11/2022
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog dros Newid Hinsawdd ynghylch y Thaglen Cartrefi Cynnes
PDF 162 KB - Llythyr ymateb gan y Gweinidog dros Newid Hinsawdd i Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Rhaglen Cartrefi Clyd
PDF 142 KB
Papurau cefndir
- Crynodeb o'r gwaith ymgysylltu - Dyled ac effaith costau byw
PDF 143 KB - Tystiolaeth gan Llywodraeth Cymru
PDF 273 KB - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
PDF 251 KB - Chwarae Teg (Saesneg yn unig)
PDF 463 KB - Cyngor ar Bopeth Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 704 KB - Cymdeithas Undebau Credyd Prydain Cyfyngedig (Saesneg yn unig)
PDF 148 KB - Ymddiriedolaeth Trussell (Saesneg yn unig)
PDF 230 KB - Well-Fed (Saesneg yn unig)
PDF 128 KB - Fare Share Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 173 KB - StepChange (Saesneg yn unig)
PDF 215 KB