Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd
gan Hannah
Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Gwybodaeth
am y Bil
Roedd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
>>>>
>>>sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol;
>>>dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol
i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu os
nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth bennu
eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (Deddf 2015);
>>>dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i
ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr
drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o
dan adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015;
>>>diwygio adran 4 o Ddeddf 2015 drwy roi
'gwaith teg' yn lle 'gwaith addas' yn y nod presennol ynghylch "Cymru
lewyrchus";
>>>dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus
penodol i ystyried defnyddio prosesau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol,
i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth
gaffael; 
>>>gofyniad i gyrff cyhoeddus penodol gyflawni
dyletswyddau rheoli contractau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i ganlyniadau
cymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi;
>>>rhoi dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a
Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiadau mewn perthynas â'r Ddyletswydd
Partneriaeth Gymdeithasol a’r Ddyletswydd Gaffael. 
<<<<
Mae
rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd
â’r Bil. 
Cyfnod
Presennol
BillStageAct
Daeth Deddf
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gyfraith yng
Nghymru ar 24 Mai 2023.
Mae
eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau
Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
Hynt y Bil
drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl
isod yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod yn ystod hynt y Bil drwy Senedd
Cymru.
zzz
¬¬¬Dyddiad y Cydsyniad Brenhinol (24
Mai 2023)
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2023.
zzz
¬¬¬Ar ôl Cyfnod 4
Ysgrifennodd Ysgrifennydd
Gwladol Cymru (PDF, 60KB) a'r Cwnsler
Cyffredinol (PDF, 162KB) at y Llywydd i’w hysbysu na fydden nhw'n cyfeirio
y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) at y Goruchaf Lys
o dan Adrannau 114, 111B neu 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
zzz
¬¬¬Cyfnod 4
Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 14
Mawrth 2023
zzz
¬¬¬Cyfnod 3 (24 Ionawr – 7 Mawrth 2023)
Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3
ar 24 Ionawr 2023. 
Cynhaliwyd ystyriaeth Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 7
Mawrth 2023 i ystyried gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod
2).
Bil
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y'i diwygiwd yng
nghyfnod 3  (PDF 162 KB) 
Grwpio
Gwelliannau - 3 Mawrth 2023 (PDF 90 KB)
Rhestr
o welliannau wedi’u didoli - 1 Mawrth 2023 (PDF 147 KB)
Memorandwm
Esboniadol, wedi’i ddiwygio ar ôl Cyfnod 2 
Llythyr
gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol – 28 Chwefror 2023 (Saesneg yn
unig) (PDF 159 KB)
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau - 24 Chwefror 2023 (PDF 95 KB)
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 23 Chwefror 2023  (PDF 77 KB)
Llywodraeth
Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 23 Chwefror 2023 (PDF 63 KB)
zzz
¬¬¬Cyfnod 2, Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau (30 Tachwedd 2022 – 23 Ionawr 2023)
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 30 Tachwedd 2022. Cyhoeddir
manylion y gwelliannau a gyflwynwyd i’w hystyried yn y Pwyllgor ar 23 Ionawr
2023.
Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol ar 16
Ionawr 2023, o dan Reol Sefydlog 26.21, mai’r drefn ar gyfer trafodion
Cyfnod 2 fyddai: Adrannau 1 i 22; Atodlen 1; Adrannau 23 i 24; Atodlen 2;
Adrannau 25 i 49; Teitl Hir. 
Grwpio
Gwelliannau – 18 Ionawr 2023
Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli – 17 Ionawr 2023
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 16 Ionawr 2023
Llywodraeth
Cymru: Tabl Diben ac Effaith– 13 Ionawr 2023
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau - 12 Ionawr 2023 
(PDF, 96KB)
Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ar 23
Ionawr 2023.
Bil
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y’i diwygiwyd yng
nghyfnod 2
¬¬¬Penderfyniad Ariannol
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, nododd y Llywydd fod
angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y
penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw
i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 29
Tachwedd 2022.
zzz
¬¬¬Cyfnod 1 (7 Mehefin 2022 – 29 Tachwedd 2022)
Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 29
Tachwedd 2022. Cytunwyd ar y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y
Bil.
Cytunodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ei ddull
o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 9 Mehefin 2022. 
Ymatebion
ysgrifenedig i'r ymgynghoriad
Dyddiadau’r
Pwyllgor
Ystyriodd y
Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Bil ar y dyddiadau canlynol:
| 
   Dyddiad
  ac Agenda  | 
  
   Diben y cyfarfod  | 
  
   Trawsgrifiad  | 
  
   Senedd.TV  | 
 
| 
   Trafod y dull craffu ar
  gyfer Cyfnod 1  | 
  
   Cyfarfod preifat  | 
  
   Cyfarfod preifat  | 
 |
| 
   Sesiynau tystiolaeth  | 
  |||
| 
   Sesiynau tystiolaeth  | 
  |||
| 
   Sesiynau tystiolaeth  | 
  |||
| 
   Sesiynau tystiolaeth  | 
  |||
| 
   Sesiynau tystiolaeth   | 
  
Gosododd y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad ar 18
Tachwedd 2022.
Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr
2022.
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn trafod y Bil ar y dyddiadau a
ganlyn:
| 
   Dyddiad
  ac Agenda  | 
  
   Diben y cyfarfod  | 
  
   Trawsgrifiad  | 
  
   Senedd.TV  | 
 
| 
   Sesiwn dystiolaeth gyda'r
  Gweinidog  | 
  
   | 
  
   | 
 
Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad i fod i glywed tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Gymdeithasol yn ei gyfarfod ar 12 Medi 2022. Fodd bynnag, gan fod y Senedd mewn
cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines, roedd
busnes y Senedd wedi’i ohirio ar y dyddiad hwn. Yn lle'r sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Dirprwy Weinidog ar 22 Medi, ac ymatebodd
y Dirprwy Weinidog ar 14 Hydref.
Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
1.5 MB) ar 17 Tachwedd 2022.
Derbyniodd y Pwyllgor ymateb
gan Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2022.
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod
y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
| 
   Dyddiad
  ac Agenda  | 
  
   Diben y cyfarfod  | 
  
   Trawsgrifiad  | 
  
   Senedd.TV  | 
 
| 
   Sesiwn dystiolaeth gyda'r
  Gweinidog  | 
  
  
   | 
 
Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad (PDF,
1.3MB) ar 18 Tachwedd 2022. Derbyniodd y Pwyllgor ymateb
gan Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2022.
Gohebiaeth
zzz
¬¬¬Cyflwynwyd
y Bil (7 Mehefin 2022)
Y Bil Partneriaeth
Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru),
fel y’i cyflwynwyd (PDF 333KB)
Memorandwm
Esboniadol (PDF 1,871KB)
Datganiad
o Fwriad y Polisi (PDF 72KB)
Datganiad y
Llywydd (PDF 128KB)
Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil (PDF 40.6KB)
zzz
Manylion
cyswllt
Clerc: Rhys
Morgan
Ffôn: 0300
200 6565
Cyfeiriad
post:
Senedd
Cymru
Bae
Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
e-bost: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2022
Dogfennau
- Datganiad o Fwriad y Polisi 
 PDF 115 KB  Gweld fel HTML (1)   70 KB   - Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cyfnod 1 y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 
 PDF 178 KB     - ymateb - pwyllgor cyllid 
 PDF 157 KB     - Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 12 Ionawr 2023 
 PDF 96 KB     - Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith– 13 Ionawr 2023 
 PDF 269 KB     - Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 16 Ionawr 2023 
 PDF 192 KB     - Cyfnod 2: Trefn y broses ystyried 
 PDF 51 KB     - Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli – 17 Ionawr 2023 
 PDF 246 KB     - Grwpio Gwelliannau - 18 Ionawr 2023 
 PDF 101 KB     - Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y'i diwygiwd yng nghyfnod 2 
 PDF 276 KB     - Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 23  Chwefror 2023 
 PDF 77 KB     - Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 23 Chwefror 2023 
 PDF 63 KB     - Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 24 Chwefror 2023 
 PDF 95 KB     - Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 27 Chwefror 2023 
 PDF 106 KB     - Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol – 28 Chwefror 2023 (Saesneg yn unig) 
 PDF 159 KB     - Memorandwm Esboniadol, wedi’i ddiwygio ar ôl Cyfnod 2 
 PDF 2 MB     - Rhestr o welliannau wedi’u didoli - 1 Mawrth 2023 
 PDF 147 KB     - Grwpio Gwelliannau - 3 Mawrth 2023 
 PDF 90 KB     - Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y'i diwygiwd yng nghyfnod 3 
 PDF 278 KB     - Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), fel y'i diwygiwd yng nghyfnod 4 (heb ei  gadarnhau) 
 PDF 303 KB     - Llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru at y Llywydd - 11 Ebrill 2023 (Saesneg yn unig) 
 PDF 216 KB     - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd - 19 Ebrill 2023 
 PDF 158 KB     - Hide the documents
 
Ymgynghoriadau
- Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (Wedi ei gyflawni)