Diogelwch menywod a thrais ar sail rhywedd
Diogelwch menywod a thrais ar sail rhywedd
Mae’r Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn ystyried cynnal ymchwiliad
i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Fel rhan o'i
ystyriaeth gychwynnol, ac i gydnabod ehangder y pwnc, cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth
bord gron gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn llywio ei ddull gweithredu.
Yn dilyn y sesiwn
hon, ac o ganlyniad i’r adborth a dderbyniwyd, cytunodd y Pwyllgor i fwrw
ymlaen â’i waith fesul cam:
1. Cynhaliodd y
Pwyllgor ymchwiliad byr i Drais yn
Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – menywod mudol. Amlygodd
trafodaethau yn ystod y sesiwn bord gron fenywod mudol fel grŵp allweddol sy’n cael eu esgeuluso, nad yw
eu hanghenion yn cael eu diwallu’n briodol ar hyn o bryd ac sy’n debygol o
brofi trais mewn ffordd wahanol i ferched a menywod eraill. Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad ar 26 Hydref 2022.
2. Mae’r Pwyllgor
yn cynnal ymchwiliad i atal trais
ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd, a bydd yn cymryd
tystiolaeth yn ystod Gwanwyn/Haf 2023.
Bydd yr wybodaeth
ddiweddaraf am y gwaith hwn i’w gweld ar y wefan hon.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2022