Datganoli pwerau cyllidol i Gymru

Datganoli pwerau cyllidol i Gymru

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru, a chynnydd yn hyn o beth.

 

Cododd y cynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (a adwaenir hefyd fel y Comisiwn Silk), yr oedd ei adroddiad cyntaf yn gwneud argymhellion o ran datganoli trethi penodol. Roedd Deddf Cymru 2014 yn rhoi rhai o argymhellion y Comisiwn ar waith, gan gynnwys rhoi pwerau i’r Senedd wneud cyfreithiau sy’n gosod treth ar drafodiadau tir ac ar waredu i safleoedd tirlenwi. Sefydlodd y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a rheoli trethi a ddatganolwyd yn sgîl Deddf Cymru.

 

Mae cyfrifoldebau’r Pwyllgor hefyd yn cynnwys ystyried yr adroddiadau blynyddol ar waith a gweithrediad Rhan 2 (Cyllid) o Ddeddf Cymru 2014 a osodir bob blwyddyn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

Cyhoeddwyd Bil Cymru Llywodraeth y DU yn 2016, a bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod goblygiadau ariannol y Bil hwn.

 

Gellir gweld dogfennau’n ymwneud â chyfrifoldebau'r Pwyllgor Cyllid yn y meysydd hyn ar gyfer tymor y Senedd hon (Chweched Senedd) isod, ac ar gyfer tymor y Pumed Senedd, trwy ddilyn y linc a ganlyn: (dogfennau’r 5ed Senedd)

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2021

Dogfennau