Penderfyniadau
Sefydlu Pwyllgorau a’u Cylchoedd Gorchwyl - Y Bumed Senedd
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
15/09/2016 - Cynnig i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6083 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
Yn
cytuno i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:
(a)
archwilio'r goblygiadau i Gymru oherwydd i'r Deyrnas Unedig benderfynu gadael
yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod
y broses adael, mewn unrhyw berthynas newydd â'r UE ac yn nhrefniadau gwledydd
y DU ar ôl gadael ar gyfer materion perthnasol o ran polisi, cyllid a
deddfwriaeth;
(b)
cydlynu gweithgarwch ar draws pwyllgorau'r Cynulliad mewn perthynas â phwynt
(a) uchod;
(c)
cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog
21.8 i 21.11, gyda newid canlyniadol i gylch gwaith y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;
(d)
ystyried unrhyw fater arall, gan gynnwys deddfwriaeth, a gyfeirir ato gan y
Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
06/07/2016 - Cynigion i gytuno ar aelodaeth pwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 14.49
Cafodd y cynigion ar y saith Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth eu grwpio a gohiriwyd y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am
14.49
NDM6061 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hefin David (Llafur Cymru),
John Griffiths (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Llyr Gruffydd
(Plaid Cymru), Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig), Darren Millar (Ceidwadwyr
Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg.
NDM6062 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Jayne Bryant (Llafur
Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Jenny
Rathbone (Llafur Cymru), Siân Gwenllian
(Plaid Cymru), Simon Thomas (Plaid Cymru) a David Melding (Ceidwadwyr Cymreig)
yn aelodau o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
NDM6063 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah Blythyn (Llafur
Cymru), Dawn Bowden (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Lee Waters
(Llafur Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a
Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a
Chyfathrebu.
NDM6064 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Hannah Blythyn (Llafur
Cymru), Hefin David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur
Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a David J
Rowlands (UKIP Cymru) yn aelodau o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
NDM6065 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Rhianon Passmore (Llafur
Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur Cymru), Siân
Gwenllian (Plaid Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Janet Finch-Saunders
(Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
NDM6066 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn Bowden (Llafur Cymru),
Jayne Bryant (Llafur Cymru), Julie Morgan (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur
Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Angela Burns (Ceidwadwyr Cymreig) a
Caroline Jones (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol
a Chwaraeon.
NDM6067 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dawn Bowden (Llafur Cymru),
Jeremy Miles (Llafur Cymru), Eluned Morgan (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid
Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) a
Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth
Gefn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
5 |
52 |
Derbyniwyd
y cynnigion.
Cafodd y cynigion ar y chwe Phwyllgor Arbenigol dilynol
eu grwpio a’u derbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6068 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Dafydd Elis-Thomas (Plaid
Cymru), David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (UKIP Cymru) yn
aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
NDM6069 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru),
Eluned Morgan (Llafur Cymru), David Rees (Llafur Cymru), Steffan Lewis (Plaid
Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn
aelodau o'r Pwyllgor Cyllid.
NDM6070 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Neil McEvoy (Plaid Cymru),
Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) a Gareth Bennett (UKIP Cymru) yn
aelodau o'r Pwyllgor Deisebau.
NDM6071 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
Mike Hedges (Llafur Cymru),
Rhianon Passmore (Llafur
Cymru), Lee Waters (Llafur Cymru), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru), Mohammad Asghar
(Ceidwadwyr Cymreig) a Neil Hamilton (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus.
NDM6072 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Dafydd Elis-Thomas
(Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a David J Rowlands (UKIP Cymru)
yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a
2. John Griffiths (Llafur Cymru) ar ran Jayne Bryant (Llafur Cymru),
Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) ar ran Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), Andrew RT
Davies (Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle
Brown (UKIP Cymru) ar ran David J Rowlands (UKIP Cymru) yn eilyddion ar gyfer y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
NDM6073 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Jayne Bryant (Llafur
Cymru), John Griffiths (Llafur Cymru), Mike Hedges (Llafur Cymru), Huw
Irranca-Davies (Llafur Cymru), Lynne Neagle (Llafur Cymru), David Rees (Llafur
Cymru), Bethan Jenkins (Plaid Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Simon Thomas
(Plaid Cymru), Russell George (Ceidwadwyr Cymreig), Nick Ramsay (Ceidwadwyr
Cymreig) a Mark Reckless (UKIP Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y
Prif Weinidog, ac
2. Ann Jones (Llafur Cymru)
yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
29/06/2016 - Motion to Change the name of the interim Constitutional and Legislative Affairs Committee
Dechreuodd yr eitem am 16.12
NDM6044 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3 yn cytuno y caiff y Pwyllgor Dros Dro ar
Faterion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2016, ei
ailenwi'n Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ei gylch gwaith yw
cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21,
ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall
sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig
â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd
deddfwriaeth.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
29/06/2016 - Motions to establish Committees
Dechreuodd yr eitem am 16.11
NDM6034 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy
graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a
ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a llesiant plant a
phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.
NDM6035 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i archwilio deddfwriaeth a dwyn
Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i
pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
newid yn yr hinsawdd, ynni, rheoli cyfoeth naturiol; cynllunio; lles
anifeiliaid ac amaethyddiaeth.
NDM6036 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y
celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r
cyfryngau.
NDM6037 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru
i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd;
trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan
gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.
NDM6038 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru
i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth
leol; tai; adfywio, cydlyniant a diogelwch cymunedol; trechu tlodi; cyfle
cyfartal a hawliau dynol.
NDM6039 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Iechyd,
Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth
Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn
cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd
corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y
system gofal cymdeithasol.
NDM6040 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlol 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn i ystyried unrhyw fater a gyfeirir ato gan y Pwyllgor
Busnes.
NDM6041 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Deisebau
i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog
23.
NDM6042 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor Craffu
ar Waith y Prif Weinidog i graffu ar waith y Prif Weinidog o safbwynt unrhyw
fater sy'n berthnasol i'r gwaith o arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
NDM6043 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1 yn sefydlu Pwyllgor Safonau
Ymddygiad i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol
Sefydlog 22.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
29/06/2016 - Election of committee chairs
Dechreuodd
yr eitem am 17.29
Gwahoddodd
y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2F. Galwyd am enwebiadau yn y drefn a ganlyn:
Y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg - Llafur
Enwebwyd
Julie Morgan gan Mike Hedges.
Eiliodd Hefin David yr enwebiad.
Enwebwyd
Lynne Neagle gan Lesley Griffiths .
Eiliodd Joyce Watson yr enwebiad.
Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig - UKIP
Enwebwyd
Mark Reckless gan David Rowlands .
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Mark Reckless wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig.
Y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Llafur
Enwebwyd
Huw Irranca-Davies gan Dawn Bowden.
Eiliodd David Rees yr enwebiad.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu – Plaid Cymru
Enwebwyd
Bethan Jenkins gan Dai Lloyd.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Bethan Jenkins wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y
Gymraeg a Chyfathrebu.
Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau – Ceidwadwyr Cymreig
Enwebwyd
Russell George gan David Melding.
Enwebwyd Janet Finch-Saunders gan Mark Isherwood.
Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau - Llafur
Enwebwyd
John Griffiths gan Jayne Bryant.
Eiliodd Dawn Bowden yr enwebiad.
Enwebwyd
Lee Waters gan Jeremy Miles.
Eiliodd Hefin David yr enwebiad.
Enwebwyd
Jenny Rathbone gan Eluned Morgan.
Eiliodd Rhianon Passmore yr enwebiad.
Gan
fod tri enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Cyllid – Plaid
Cymru
Enwebwyd
Simon Thomas gan Llyr Gruffydd.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Simon Thomas wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a Chwaraeon – Plaid Cymru
Enwebwyd
Dai Lloyd gan Bethan Jenkins.
Enwebwyd Rhun ap Iorwerth gan Llyr Gruffydd.
Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Deisebau –
Llafur
Enwebwyd
Mike Hedges gan Rhianon Passmore.
Eiliodd Julie Morgan yr enwebiad.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Mike Hedges wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus – Ceidwadwyr Cymreig
Enwebwyd
Darren Millar gan David Melding.
Enwebwyd Mark Isherwood gan Janet Finch-Saunders.
Enwebwyd Nick Ramsay gan Mohammad Asghar.
Gan
fod tri enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn
unol â Rheol Sefydlog 17.21.
Y Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn - Llafur
Enwebwyd
David Rees gan Eluned Morgan.
Eiliodd Huw Irranca-Davies yr enwebiad.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod David Rees wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Polisi a
Deddfwriaeth Wrth Gefn.
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
- Llafur
Enwebwyd
Jayne Bryant gan Joyce Watson.
Eiliodd Mike Hedges yr enwebiad.
Gan
nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y
Llywydd fod Jayne Bryant wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
29/06/2016 - Motion to allocate committee chairs to political groups
Dechreuodd
yr eitem am 17.28
NDM6056 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion
pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
- Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;
- Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - UKIP;
- Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Llafur;
- Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Plaid Cymru;
- Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Ceidwadwyr Cymreig;
- Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Llafur;
- Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;
- Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Plaid Cymru;
- Y Pwyllgor Deisebau - Llafur;
- Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;
- Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn - Llafur;
- Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
23/06/2016 - Motion to elect members to a Committee
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM6049 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
(i) Mike Hedges (Llafur Cymru),
Eluned Morgan (Llafur Cymru), Jeremy Miles (Llafur Cymru), Simon Thomas (Plaid
Cymru), Adam Price (Plaid Cymru), Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) a Mark
Reckless (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o’r Pwyllgor Cyllid;
a
(ii) Simon Thomas (Plaid
Cymru) yn Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
16/06/2016 - Motion under Standing Order 16.1 to establish an interim Committee on Constitutional and Legislative Affairs
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6023 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1:
Yn
sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni
swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac
ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall
sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig
â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd
deddfwriaeth.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.