Manylion y penderfyniad

Election of committee chairs

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

The Establishment and Remits of Committees is governed by Standing Order 16.

View Standing Orders

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 17.29

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F. Galwyd am enwebiadau yn y drefn a ganlyn:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur

Enwebwyd Julie Morgan gan Mike Hedges.
Eiliodd Hefin David yr enwebiad.

Enwebwyd Lynne Neagle gan Lesley Griffiths .
Eiliodd Joyce Watson yr enwebiad.

Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - UKIP

Enwebwyd Mark Reckless gan David Rowlands .

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Mark Reckless wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Llafur

Enwebwyd Huw Irranca-Davies gan Dawn Bowden.
Eiliodd David Rees yr enwebiad.

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Huw Irranca-Davies wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu – Plaid Cymru

Enwebwyd Bethan Jenkins gan Dai Lloyd.

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Bethan Jenkins wedi ei hethol yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau – Ceidwadwyr Cymreig

Enwebwyd Russell George gan David Melding.
Enwebwyd Janet Finch-Saunders gan Mark Isherwood.

Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Llafur

Enwebwyd John Griffiths gan Jayne Bryant.
Eiliodd Dawn Bowden yr enwebiad.

Enwebwyd Lee Waters gan Jeremy Miles.
Eiliodd Hefin David yr enwebiad.

Enwebwyd Jenny Rathbone gan Eluned Morgan.
Eiliodd Rhianon Passmore yr enwebiad.

Gan fod tri enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.

Y Pwyllgor Cyllid – Plaid Cymru

Enwebwyd Simon Thomas gan Llyr Gruffydd.

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Simon Thomas wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon – Plaid Cymru

Enwebwyd Dai Lloyd gan Bethan Jenkins.
Enwebwyd Rhun ap Iorwerth gan Llyr Gruffydd.

Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.

Y Pwyllgor Deisebau – Llafur

Enwebwyd Mike Hedges gan Rhianon Passmore.
Eiliodd Julie Morgan yr enwebiad.

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Mike Hedges wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Ceidwadwyr Cymreig

Enwebwyd Darren Millar gan David Melding.
Enwebwyd Mark Isherwood gan Janet Finch-Saunders.
Enwebwyd Nick Ramsay gan Mohammad Asghar.

Gan fod tri enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.

Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn - Llafur

Enwebwyd David Rees gan Eluned Morgan.
Eiliodd Huw Irranca-Davies yr enwebiad.

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod David Rees wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur

Enwebwyd Jayne Bryant gan Joyce Watson.
Eiliodd Mike Hedges yr enwebiad.

Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Jayne Bryant wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Dyddiad cyhoeddi: 29/06/2016

Dyddiad y penderfyniad: 28/06/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd