Manylion y penderfyniad

Cynnig i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

The Establishment and Remits of Committees is governed by Standing Order 16.

View Standing Orders

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

 

NDM6083 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

Yn cytuno i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:

 

(a) archwilio'r goblygiadau i Gymru oherwydd i'r Deyrnas Unedig benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd a sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu diogelu yn ystod y broses adael, mewn unrhyw berthynas newydd â'r UE ac yn nhrefniadau gwledydd y DU ar ôl gadael ar gyfer materion perthnasol o ran polisi, cyllid a deddfwriaeth;

 

(b) cydlynu gweithgarwch ar draws pwyllgorau'r Cynulliad mewn perthynas â phwynt (a)  uchod;

 

(c) cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 21.8 i 21.11, gyda newid canlyniadol i gylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol;

 

(d) ystyried unrhyw fater arall, gan gynnwys deddfwriaeth, a gyfeirir ato gan y Pwyllgor Busnes.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 15/09/2016

Dyddiad y penderfyniad: 14/09/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd