Penderfyniadau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Menter

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

16/03/2016 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Menter mewn perthynas â darpariaethau Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol

Dechreuodd yr eitem am 15.16

NDM5992 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


16/03/2016 - Supplementary Legislative Consent Motion on the UK Enterprise Bill provisions in relation to data sharing for apprenticeships

Dechreuodd yr eitem am 15.51

NDM5996 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phrentisiaethau, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


16/03/2016 - Supplementary Legislative Consent Motion (Memorandum No.4) on the UK Enterprise Bill provisions relating to Public Sector Employment: Restriction on Exit Payments

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5994 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â chyfyngu ar daliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y cynnig.


02/12/2015 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Small Business Commissioner provisions arising from the Enterprise Bill

Dechreuodd yr eitem am 16.51

NDM5891 Edwina Hart (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


02/12/2015 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Swyddfa Brisio sy'n deillio o'r Bil Menter

Dechreuodd yr eitem am 16.49

NDM5892 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth am ardrethi annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


09/11/2015 - Legislative Consent Motion - Small Business Commissioner

8.1 Nododd y Pwyllgor y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Comisiynydd Busnesau Bach a chytunwyd arno.