Manylion y penderfyniad

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Swyddfa Brisio sy'n deillio o'r Bil Menter

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.49

NDM5892 Leighton Andrews (Rhondda)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth am ardrethi annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 02/12/2015

Dyddiad y penderfyniad: 01/12/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad