Manylion y penderfyniad
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Menter mewn perthynas â darpariaethau Cod Rheoleiddwyr ac Awdurdod Sylfaenol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o
fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.16
NDM5992 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn
y Bil Menter, sy'n ymwneud â gwelliannau i Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a
Sancsiynau 2008 mewn perthynas â'r cynllun Awdurdod Sylfaenol a gwelliannau i
Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 mewn perthynas ag egwyddorion
a chod y rheoleiddwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2016
Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad