Ymgynghoriad

Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i gasglu trethi datganoledig. O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd angen i Gymru gael system ar gyfer casglu a rheoli trethi newydd a gyflwynir yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ynghylch Papur Gwyn ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru ac mae’n bwriadu cyflwyno Bil.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor i gasglu trethi datganoledig yn canolbwyntio ar:

  • y sefydliadau mwyaf effeithlon i gasglu trethi datganoledig yn y tymor byr a’r tymor hir; a'r
  • cydbwysedd rhwng yr angen am sefydlogrwydd a chyfleoedd i ddatblygu trethi sydd wedi'u teilwra ar gyfer Cymru yn y dyfodol.

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu’ch sylwadau ar y canlynol:

  • Yn eich barn chi, pwy ddylai fod yn gyfrifol am gasglu trethi yng Nghymru?
  • A ddylai trethi yng Nghymru gael eu casglu gan un sefydliad neu a ddylai mwy nag un sefydliad gasglu'r trethi gwahanol?
  • Sut y gellir defnyddio profiad ac arbenigedd sefydliadau sydd eisoes yn casglu rhai trethi yng Nghymru, fel awdurdodau lleol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi?
  • Sut y gellir diogelu'r broses o gasglu trethi yng Nghymru ar gyfer y dyfodol? A ddylid cynllunio atebion i broblemau mewn modd y gellir eu haddasu os bydd trethi’n newid yn y dyfodol?
  • Sut ydych chi’n credu y gellir casglu trethi yng Nghymru mewn ffordd sy'n sicrhau bod safonau gwasanaeth yn parhau'n gyson?
  • A oes gennych unrhyw sylwadau eraill mewn perthynas â'r ymchwiliad hwn nad yw’r uchod yn ymdrin â nhw?

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu yn Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565