Atodiad A
Cwestiynau ymgynghori
Yn eich barn chi, pwy ddylai fod yn gyfrifol am gasglu trethi yng Nghymru?
A ddylai trethi yng Nghymru gael eu casglu gan un sefydliad neu a ddylai mwy nag un sefydliad gasglu'r trethi gwahanol?
Sut y gellir defnyddio profiad ac arbenigedd sefydliadau sydd eisoes yn casglu rhai trethi yng Nghymru, fel awdurdodau lleol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi?
Sut y gellir diogelu'r broses o gasglu trethi yng Nghymru ar gyfer y dyfodol? A ddylai datrysiadau fod yn rhai y gellir eu haddasu yn sgil newidiadau i drethi yn y dyfodol?
Sut y credwch y gellir casglu trethi yng Nghymru mewn ffordd sy'n sicrhau bod safonau gwasanaeth yn parhau'n gyson?
A oes gennych unrhyw sylwadau eraill mewn perthynas â'r ymchwiliad hwn nad eir i'r afael â hwy uchod?