Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ddatblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad undydd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16.

 

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor yn ceisio eich barn ar faterion fel y rhai hyn:

 

>>>> 

>>>A fydd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol y gallu a'r adnoddau i gynnal eu rhaglen waith a'u darpariaeth bresennol;

>>>I ba raddau y bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu'r dyraniad ychwanegol o £3.5 miliwn a glustnodwyd ar gyfer y Coleg Cymraeg a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer 2024-25 yn effeithio ar waith datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 yn y dyfodol a chefnogaeth Gymraeg i bobl ifanc;

>>>Archwilio sut y gallai'r penderfyniad effeithio ar nifer y bobl ifanc sy'n dysgu Cymraeg, ac ystyried yr effaith bosibl ar bobl ifanc sy'n dewis dilyn cyrsiau hyfforddi a chyrsiau ôl-16 yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg; a

>>>Deall sut y bydd penderfyniadau ynghylch cyllid yn y dyfodol ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16 yn effeithio ar lwybr a thargedau Cymraeg 2050.

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 09.00 ddydd Llun 8 Ebrill 2024.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565