Ymgynghoriad

Goblygiadau data y Cyfrifiad i'r fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi'r Ddarpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr 2022, cytunodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am dystiolaeth ychwanegol ar effaith data’r Cyfrifiad diweddar ar y fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi’r Ddarpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESPs).

 

Roedd y Pwyllgor yn siomedig iawn yn y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg fel yr amlinellwyd yn nata Cyfrifiad 2021 a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2022. Er bod gostyngiad yn nifer y plant 5 i 15 oed oedd yn gallu siarad Cymraeg, mae canran y bobl yn y grŵp oedran hwn sy’n gallu siarad Cymraeg yn dal yn uwch nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn dangos y rôl allweddol y mae addysg yn ei chwarae o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

 

Mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig ystyried goblygiadau data’r Cyfrifiad ar gyfer materion a drafodir yn ei ymchwiliad.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565