Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Gwaith craffu ar ôl deddfu

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Gwaith craffu ar ôl deddfu

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

 

Derbyniodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Gydsyniad Brenhinol yn 2015 ac mae’n ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Ei nod yw rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac mae wedi’i chynllunio i sicrhau bod camau gweithredu yn diwallu anghenion y presennol, heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

 

Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae'n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i bennu a chyhoeddi amcanion llesiant er mwyn dangos sut y byddant yn cyflawni’r nodau.

 

Sefydlodd hefyd rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gweithredu fel gwarcheidwad buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf.

 

I nodi deng mlynedd ers pasio’r Ddeddf, mae’r Pwyllgor o’r farn ei bod yn amserol cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar effaith ac effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth.

 

Cylch gorchwyl

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn cynnwys ystyried:

>>>> 

>>>i ba raddau y mae amcan arfaethedig y Ddeddf yn cael ei gyflawni; 

>>>unrhyw gamau y dylid eu cymryd i wella effeithiolrwydd y Ddeddf a'r dull o'i gweithredu, gan gynnwys unrhyw faterion drafftio penodol;

>>>a yw’r gofynion adolygu ac adrodd o dan y Ddeddf yn cael eu bodloni;

>>>effeithiolrwydd canllawiau a wnaed o dan y Ddeddf;

>>>i ba raddau y mae'r Ddeddf wedi bod yn gyfreithiol-rwym ac yn orfodadwy; ac

i ba raddau y mae'r Ddeddf wedi rhoi gwerth am arian, ac a fydd yn parhau i wneud hynny. 

<<< 

 

Sylwch fod y Pwyllgor yn awyddus i adeiladu ar y corff o lenyddiaeth sy'n bodoli eisoes, ac a ragwelir, ynghylch gweithrediad y Ddeddf yn hytrach na’i ddyblygu. Felly, lle bo hynny'n bosibl, mae'r Pwyllgor yn bwriadu ystyried adroddiadau sy'n ofynnol o dan y Ddeddf a mireinio ei ddull gweithredu yn unol ag unrhyw ganfyddiadau sy'n dod i'r amlwg wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo.

 

Galwad y Pwyllgor am dystiolaeth

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth ysgrifenedig yn unol â chylch gorchwyl yr ymchwiliad gan unrhyw randdeiliaid sydd â diddordeb.

 

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Bydd y Pwyllgor hefyd yn gwahodd rhestr o randdeiliaid a dargedwyd i gyflwyno ymateb.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion ysgrifenedig yw 20 Mehefin 2025, fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd am i’w dystiolaeth gael ei hystyried gan y Pwyllgor cyn iddo ddechrau cymryd tystiolaeth lafar (gan gynnwys y rhai a wahoddwyd i roi tystiolaeth lafar) sicrhau bod eu tystiolaeth yn cyrraedd erbyn 27 Mai 2025.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565