Cymraeg i bawb?
Cymraeg i bawb?
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 24 Ionawr 2025 a Dydd Sul, 27 Ebrill 2025
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CFA01 Bethan Collins, Myfyrwir PhD - Seasneg yn unig
PDF 73 KB Gweld fel HTML (1) 75 KB - CFA02 Unigolyn 01 - Saesneg yn unig
PDF 74 KB Gweld fel HTML (2) 75 KB - CFA03 Unigolyn 02 - Saesneg yn unig
PDF 77 KB Gweld fel HTML (3) 77 KB - CFA04 Unigolyn 03
PDF 65 KB Gweld fel HTML (4) 75 KB - CFA05 Dr Gergory Davies (Prifysgol Lerpwl) a Dr Robert Jones (Prifysgol Caerdydd) - Saesneg yn unig
PDF 143 KB Gweld fel HTML (5) 88 KB - CFA06 Coleg Cymraeg Cenedlaethol
PDF 101 KB Gweld fel HTML (6) 80 KB - CFA07 Ffederasiwn Busnesau Bach - Saesneg yn unig
PDF 113 KB Gweld fel HTML (7) 82 KB - CFA08 Colegau Cymru
PDF 90 KB - CFA09 Cyngor Sir Fynwy
PDF 76 KB Gweld fel HTML (9) 78 KB - CFA10 Dr Thora Tenbrink - Saesneg yn unig
PDF 69 KB Gweld fel HTML (10) 74 KB - CFA11 Mudiad Meithrin
PDF 96 KB Gweld fel HTML (11) 81 KB - CFA12 Unigolyn 04 - Saesneg yn unig
PDF 72 KB Gweld fel HTML (12) 74 KB - CFA13 Unigolyn 05 - Saesneg yn unig
PDF 71 KB Gweld fel HTML (13) 74 KB - CFA14 Unigolyn 06
PDF 68 KB Gweld fel HTML (14) 75 KB - CFA15 Mentrau Iaith Cymru
PDF 89 KB Gweld fel HTML (15) 80 KB - CFA16 Dysgu Cymraeg Morgannwg
PDF 68 KB Gweld fel HTML (16) 75 KB - CFA17 Unigolyn 07
PDF 68 KB Gweld fel HTML (17) 75 KB - CFA18 Comisiynydd y Gymraeg
PDF 90 KB Gweld fel HTML (18) 82 KB - CFA19 UCAC
PDF 89 KB Gweld fel HTML (19) 80 KB - CFA20 Unigolyn 08
PDF 67 KB Gweld fel HTML (20) 74 KB - CFA21 Dyfodol i'r Iaith
PDF 94 KB Gweld fel HTML (21) 83 KB - CFA22 Caerdydd Ddwyieithog (Cyngor Caerdydd)
PDF 100 KB Gweld fel HTML (22) 83 KB - CFA23 Iaith
PDF 72 KB Gweld fel HTML (23) 76 KB - CFA24 Cwmpas
PDF 83 KB Gweld fel HTML (24) 98 KB - CFA25 Estyn
PDF 110 KB Gweld fel HTML (25) 108 KB - CFA26 Urdd Gobaith Cymru
PDF 120 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad
archwiliadol sy’n edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd i gynyddu’r defnydd o’r
Gymraeg ledled Cymru, ac yn arbennig mewn ardaloedd sydd â llai o siaradwyr
Cymraeg.
Mae deall y
rhwystrau amlwg i ddefnydd iaith, sut i ddatblygu hyder a newid ymddygiad
ieithyddol fel bod pobl yn dechrau defnyddio mwy o’r Gymraeg yn eu bywydau bob
dydd yn allweddol i hyfywedd yr iaith ym mhob cymuned. Mae’r heriau hynny ar eu
mwyaf mewn ardaloedd lle nad yw’r iaith yn cael ei siarad yn eang, a lle mae
angen ymyriadau â ffocws.
Nod yr ymchwiliad
yw:
>>>>
>>>Archwilio’r
rhwystrau a’r cyfleoedd allweddol i ddefnyddio’r Gymraeg ledled Cymru, ond gan
ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg;
>>>Archwilio
dulliau, technegau ac ymyriadau, gan gynnwys technoleg, a all annog newid
ymddygiad a datblygu hyder fel bod mwy o bobl yn defnyddio rhywfaint o Gymraeg
bob dydd;
>>>Ystyried
effeithiolrwydd mentrau sy’n anelu at greu’r amodau a’r gofodau i annog mwy o
ddefnydd o’r Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr
Cymraeg;
>>>Deall
i ba raddau y mae digwyddiadau diwylliannol, fel yr Eisteddfodau a gwyliau
Cymraeg, yn effeithio ar ddefnydd iaith mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr
Cymraeg
<<<
Byddem yn eich
annog i gadw eich cyflwyniad yn gryno a chanolbwyntio ar y pwyntiau allweddol
yr hoffech dynnu sylw'r Pwyllgor atynt. Nid oes angen ichi ateb bob cwestiwn
oni bai eich bod am wneud hynny.
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu amrywiaeth y bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich
safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i
gwerthfawrogi.
Hoffem i chi
gyflwyno’ch sylwadau drwy lenwi’r ffurflen
ar-lein hon.
Mae templed ar gael
i’w lawrlwytho er mwyn drafftio’ch ymateb cyn ei gyflwyno, os ydych chi’n
dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, gofynnwn i chi beidio â chyflwyno eich ymateb
i'r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy’r e-bost. Dylid cyflwyno ymatebion
drwy ddefnyddio’r ffurflen
ar-lein.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau yw dydd Sul, 27 Ebrill 2025.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565