Tlodi Tanwydd yng Nghymru
Tlodi Tanwydd yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 4 Hydref 2024 a Dydd Iau, 7 Tachwedd 2024
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- FP01 - National Energy Action (NEA) Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 414 KB - FP02 - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
PDF 326 KB - FP03 - Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol (Saesneg yn unig)
PDF 199 KB - FP04 - Age Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 269 KB - FP05 - Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor (Saesneg yn unig)
PDF 151 KB - FP06 - Iechyd Cyhoeddus Cymru
PDF 287 KB - FP07 - Cyngor ar Bopeth Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 268 KB - FP08 - Cyngor Sir Powys (Saesneg yn unig)
PDF 162 KB - FP09 - Care & Repair Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 372 KB - FP10 - Tai Pawb, CIH Cymru a Shelter Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 314 KB - FP11 - Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych (Saesneg yn unig)
PDF 774 KB - FP12 - Marie Curie (Saesneg yn unig)
PDF 198 KB - FP13 - Bevan Foundation (Saesneg yn unig)
PDF 261 KB
Diben yr ymgynghoriad
Yn ei gyfarfod ar
30 Medi 2024,
cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol i gynnal ymchwiliad dilynol i dlodi tanwydd a'r
Rhaglen Cartrefi Clyd.
Mae'r ymchwiliad
yn dilyn yn sgil ymchwiliad gwaith
blaenorol y Pwyllgor a bydd yn edrych ar yr hyn y mae tlodi tanwydd yn ei
olygu i bobl yng Nghymru heddiw a pha gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran
gweithredu cynllun olynol.
Lansiodd
Llywodraeth Cymru y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar 1 Ebrill 2024. Cafodd
rhywfaint o wybodaeth gefndir am y rhaglen newydd ei chynnwys mewn datganiad
polisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2023.
Cylch gorchwyl
Y cylch gorchwyl
ar gyfer yr ymchwiliad yw archwilio:
>>>
>>>A oes
darlun cywir o dlodi tanwydd yng Nghymru heddiw, o ystyried bod data yn
seiliedig ar Arolwg Byw yng Nghymru 2008 ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18;
>>>Effaith
bosibl newidiadau i feini prawf cymhwysedd y Taliadau Tanwydd Gaeaf ar dlodi
tanwydd yng Nghymru;
>>>Manylion
am y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd, gan gynnwys y mesurau effeithlonrwydd ynni a
gynigir, newidiadau i feini prawf cymhwysedd, y dull o ddarparu gwasanaethau
cynghori, a datblygu dull sy’n seiliedig ar ardal;
>>>Sut y
bydd newidiadau o'r rhaglen flaenorol yn effeithio ar gyflawni, yn enwedig o
ran nifer yr aelwydydd a fydd yn cael cymorth;
>>>I ba
raddau y mae’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd
parhaus yng Nghymru, ac os nad yw, pa gamau pellach sydd eu hangen;
>>>Effeithiolrwydd
y cymorth sydd ar gael i aelwydydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o
fod mewn tlodi tanwydd, yn ogystal â’r Rhaglen Cartrefi Clyd;
>>>Pa
mor effeithiol y mae awdurdodau lleol wedi bod o ran cyrchu a defnyddio cyllid
ECO Flex;
>>>Sut
mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â
thlodi tanwydd.
<<<
Mae'r wybodaeth
ar y dudalen hon yn rhoi rhagor o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn edrych
arno a sut y gallwch rannu eich barn.
Sut i rannu
eich barn
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu amrywiaeth y bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich
safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i
gwerthfawrogi.
I rannu eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost i SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru,
neu drwy'r post i’r:
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol,
Senedd Cymru,
Caerdydd
CF99 1SN.
Y dyddiad cau ar
gyfer rhannu eich barn yw 16.00, ddydd Iau 7 Tachwedd 2024.
Yn ogystal â'ch
ymateb, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>>A yw
eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 oed.
>>>Os
ydych o dan 13 oed, cytundeb gan eich rhiant neu eich gwarcheidwad y cewch
gymryd rhan (gellir darparu hyn dros e-bost).
>>>Cadarnhad
a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch
tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Cadarnhad
o ran a hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.
>>>Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, megis rhiant, priod
neu berthynas, cadarnhad ei fod wedi cytuno y cewch rannu gwybodaeth y gellir
ei defnyddio i'w adnabod a'i fod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565