Ymgynghoriad

Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae gwybodaeth am yr ymchwiliad hefyd ar gael yn fformat Microsoft Word.

 

Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i ddiwylliant a’r berthynas rhwng y DU a’r UE.

 

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor yn ystyried yr effaith ar y sector diwylliant ar ôl i’r DU adael yr UE, ac yn ceisio eich barn ar faterion fel y rhai hyn:

>>>> 

>>>effaith y berthynas newydd ar artistiaid a gweithwyr creadigol sy'n teithio ac yn gweithio ar draws ffiniau (gan gynnwys teithio a gweithio yng Nghymru);

>>>effaith y trefniadau masnachu newydd sy'n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol;

>>>argaeledd canllawiau a chymorth ar gyfer y sector sy'n ymwneud â'r berthynas newydd rhwng y DU a'r UE;

>>>yr effaith ar fynediad i raglenni cyllido a rhwydweithiau; ac

>>>unrhyw newidiadau i’r berthynas rhwng y DU a'r UE a allai wella trefniadau gweithio ar draws ffiniau ar gyfer y sector diwylliant.

<<<< 

 

Mae croeso ichi roi eich barn neu rannu gwybodaeth am unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’n hymchwiliad. Mae templed i lywio eich ymateb hefyd ar gael i'w lawrlwytho fel dogfen Microsoft Word.

 

Dilyn: #SeneddDiwylliantUE

 

Sut i rannu eich barn

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis rhannu eu barn â ni yn ysgrifenedig. Y ffordd gyflymaf o wneud hyn yw anfon e-bost at SeneddCulture@senedd.cymru. Ein cyfeiriad post yw:

 

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol,
Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1SN

 

I'r rhai na allant rannu eu barn gyda ni yn ysgrifenedig, gallwn hefyd dderbyn mathau eraill o dystiolaeth, fel fideo neu recordiadau llais. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni.

 

Rydym am drin pobl yn deg a sicrhau bod pawb yn gallu dweud eu dweud. Os nad yw hyn yn digwydd, rydym am glywed sut y gallwn newid hyn. Rhannwch unrhyw fanylion gyda ni am eich amgylchiadau personol neu anghenion sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi gymryd rhan ac am yr hyn y gallem ei wneud yn wahanol fel y gallwch chi gymryd rhan.

 

Gallwch ffonio ein staff cymorth ar 0300 200 6565 neu gysylltu â ni drwy ein cyfrif twitter @SeneddDiwyllCRh.

 

Casglu tystiolaeth

Byddwn yn casglu gwybodaeth dros yr haf ac yn yr hydref. Y dyddiad cau ar gyfer darparu gwybodaeth i ni yw dydd Gwener, 27 Hydref 2023. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei defnyddio i'n helpu i wirio a herio Llywodraeth Cymru am ei gwaith yn y maes hwn. Bydd eich gwybodaeth hefyd yn ein helpu i feddwl am ba newidiadau rydym am eu gweld yn digwydd.

 

Fel Pwyllgor, ni allwn gymryd rhan mewn achosion unigol, ond gall eich barn a'ch profiadau helpu i gyfrannu at wneud newidiadau ledled Cymru.

 

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Ynghyd â’ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>Dylech roi gwybod inni os byddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Dylech roi gwybod inni os ydych am i'ch cyflwyniad gael ei drin yn gyfrinachol, a pham.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Fel arfer mae Senedd Cymru yn cyhoeddi tystiolaeth a gyflwynir i bwyllgor ar ei gwefan, fel bod y dystiolaeth hon yn dod yn rhan o’r cofnod cyhoeddus.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565