Ymgynghoriad
Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol yn cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Diben y Bil
Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yw creu fframwaith i
wella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus, a hynny drwy
weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael
cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol, gan gynnwys drwy sefydlu Cyngor
Partneriaeth Gymdeithasol.
Mae rhagor o
fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm
Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef (PDF 1,871KB).
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor am
glywed eich barn am egwyddorion cyffredinol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a
Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad
polisi a nodir. Wrth ffurfio barn ar hyn, efallai yr hoffech ystyried
darpariaethau allweddol y Bil, sef:
>>>>
>>> sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol;
>>> dyletswydd statudol ar rai cyrff cyhoeddus i
geisio consensws neu gyfaddawd gyda’u hundebau llafur cydnabyddedig, neu (os
nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gyda chynrychiolwyr staff eraill, wrth
bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni’r amcanion hynny o dan adran 3(2) o
Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
>>> dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i
ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr
drwy’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o
dan adran 3(2)(b) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
>>> diwygio adran 4 o Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy roi ‘gwaith teg’ yn lle ‘gwaith addas’
yn y nod “Cymru lewyrchus” presennol;
>>> dyletswydd statudol ar rai cyrff cyhoeddus i
ystyried caffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol wrth gyflawni gwaith
caffael, i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi
strategaeth gaffael;
>>> rhai cyrff cyhoeddus i gyflawni dyletswyddau
rheoli contractau i sicrhau yr eir ar drywydd canlyniadau sy’n gymdeithasol
gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi;
>>> dyletswyddau adrodd i’w gosod ar gyrff
cyhoeddus a Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r ddyletswydd partneriaeth
gymdeithasol a’r ddyletswydd gaffael;
<<<
Efallai yr
hoffech hefyd ystyried:
Unrhyw rwystrau
posibl rhag rhoi darpariaethau'r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried;
Priodoldeb y
pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir ym
Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);
A oes unrhyw
ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a
Goblygiadau
ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad yw dydd Gwener 22 Gorffennaf 2022.
Cyflwyno Tystiolaeth
Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEquality@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565