Undod rhwng cenedlaethau - Grŵp Trawsbleidiol

Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhestr o’r cyfarfodydd ar gyfer: Undod rhwng cenedlaethau - Grŵp Trawsbleidiol.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Undod rhwng cenedlaethau - Grŵp Trawsbleidiol

 

Diben

 

Hyrwyddo cydgefnogaeth a dealltwriaeth rhwng y cenedlaethau, gan gynnwys prosiectau sy’n dwyn ynghyd y cenedlaethau iau a hŷn, ac archwilio tystiolaeth a datblygu cynigion polisi a fyddai o fudd i’r cenedlaethau iau a hŷn.

 

Helpu cenedlaethau hŷn ac iau i oresgyn ynysu cymdeithasol ac unigrwydd sydd wedi ei achosi gan y pandemig Covid19.

 

Y diffiniad a gaiff ei ddyfynnu fwyaf aml wrth gyfeirio at arferion rhyngenedlaethol yn y maes yw:

 

“Mae ymarfer rhyng-genedlaethau yn ceisio dod â phobl at ei gilydd mewn gweithgareddau pwrpasol, buddiol i'r ddwy ochr sy'n hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth a pharch ymysg cenedlaethau ac yn cyfrannu at adeiladu cymunedau mwy cydlynol. Mae ymarfer rhyng-genedlaethau yn gynhwysol, gan adeiladu ar yr adnoddau cadarnhaol y mae gan yr ifanc a'r hen i’w cynnig i'w gilydd a'r rhai o'u cwmpas.”

(Canolfan ar gyfer Pontio’r Cenedlaethau: Sefydliad Beth Johnson, 2001)

 

 

Deiliaid swyddi

 

Cadeirydd: Delyth Jewell AS

Is-Gadeirydd: Peredur Owen Griffiths

Is-Gadeirydd: Altaf Hussain

 

Ysgrifennydd: Dewi John - Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

 

Dogfennau:

 

Dogfennau'r Grŵp Trawsbleidiol