Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Amseriad disgwyliedig: Canolfan Cwmbrân ar gyfer Pobl Ifanc
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
476KB) Gweld fel HTML
(270KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan y canlynol: Jayne
Bryant; Russell George; Mike Hedges; Bethan Jenkins a Simon Thomas. |
|
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Hawliau Plant a Phobl Ifanc Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC - Prif Weinidog Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu'r
Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran dull Llywodraeth Cymru o
ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ei deddfwriaeth, ei
pholisïau a'i harferion. 2.2
Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad i'r
Pwyllgor ynghylch y canlynol: ·
Sefydlu
mecanwaith ffurfiol, fel Pwyllgor Cynghori Pobl Ifanc, i wrando ar farn plant a
phobl ifanc fel rhan o'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd; ·
Ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth mynediad agored cyffredinol i bobl ifanc,
ledled Cymru. 2.3 Ymrwymodd y Cadeirydd i ddarparu unrhyw
enghreifftiau i'r Prif Weinidog o'r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu cael wrth
gael lleoliadau profiad gwaith, a gafwyd drwy waith ymgysylltu y Pwyllgor. |
|
Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol Cofnodion: Gofynnodd
yr Aelodau nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i
ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion. |