Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 108(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/12/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 6 a 7 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu
Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: David Melding
(Canol De Cymru): O ystyried y ffigurau ar gyfer nifer y tai newydd a
gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd
y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yng
Nghymru bob blwyddyn yn lleihau? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet ddatganiad ynglŷn â'r rhesymau y bydd trothwy cychwynnol y dreth
trafodiadau tir yn codi ar gyfer prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei
datganoli ym mis Ebrill 2018? Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet ddatganiad am gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau
bach ar gyfer Cymru, yn dilyn ei gyhoeddiad heddiw drwy ddatganiad
ysgrifenedig? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.08 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (atebwyd
gan y Gweinidog Tai ac Adfywio): David Melding (Canol De Cymru): O ystyried y ffigurau
ar gyfer nifer y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn
ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi
newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn yn lleihau? Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd
y Cabinet ddatganiad ynglŷn â'r rhesymau y bydd trothwy cychwynnol y dreth
trafodiadau tir yn codi ar gyfer prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei
datganoli ym mis Ebrill 2018? Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd
y Cabinet ddatganiad am gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau
bach ar gyfer Cymru, yn dilyn ei gyhoeddiad heddiw drwy ddatganiad
ysgrifenedig? |
|||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd Joyce Watson bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog
13.9(v) ynghylch sylwadau a wnaeth Gareth Bennett AC y diwrnod cynt yn ystod
dadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2016–2017. Diolchodd y Llywydd i’r Aelod am ei Phwynt o Drefn. Roedd
wedi adolygu’r cofnod yn y cyfamser ac, er ei bod yn cymryd o ddifrif hawl
Aelodau’r Cynulliad yn y Siambr i wneud sylwadau na chânt eu gwerthfawrogi’n
llawn gan Aelodau eraill, roedd hi o’r farn bod rhai o sylwadau Gareth Bennett
yn arbennig o atgas a gwahaniaethol i’r gymuned drawsryweddol, yn enwedig y
cyfeiriad at ‘wyro oddi wrth y norm’. Rhoddodd y Llywydd gyfle i’r Aelod dynnu ei sylwadau yn
ôl ac ymddiheuro i’r Siambr. Gan fod yr Aelod yn gwrthod ymddiheuro na thynnu
ei sylwadau yn ôl, cyhoeddodd y Llywydd na fyddai’r Aelod yn cael ei alw i
siarad yn y Siambr eto nes y byddai wedi gwneud hynny. |
||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.37 Gwnaeth
Mark Isherwood ddatganiad ar ostyngiad y boblogaeth o gylfiniriaid yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd NDM6611
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd
a Materion Gwledig. 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar
gyfer polisïau coetiroedd', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017. Nodyn: Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 20 Medi 2017. Dogfennau
ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.39 NDM6611 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. 'Heb
gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6572 Lee
Waters (Llanelli) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus
fodern i leddfu'r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru. 2. Yn nodi'r dystiolaeth bod angen system trafnidiaeth
gyhoeddus gwbl integredig - gan gynnwys teithio llesol - i ddarparu dewis amgen
ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio'r car. 3. Yn croesawu'r ymrwymiad i'r camau cyntaf tuag at metro
de Cymru. 4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i ddatblygu gweledigaeth ar
gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid i ddatblygu achos
amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel cam nesaf. 5. Yn credu bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer
i weithredu fel corfforaeth ddatblygu - gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd
mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd metro - er mwyn denu
rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.30 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6572 Lee Waters (Llanelli) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu'r pwysau ar rwydwaith ffyrdd
Cymru. 2. Yn nodi'r dystiolaeth bod
angen system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig - gan gynnwys teithio
llesol - i ddarparu dewis amgen ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio'r
car. 3. Yn croesawu'r ymrwymiad i'r
camau cyntaf tuag at metro de Cymru. 4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i
ddatblygu gweledigaeth ar gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid
i ddatblygu achos amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel
cam nesaf. 5. Yn credu bod yn rhaid i
Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu -
gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n
agos at orsafoedd metro - er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith
metro. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6612
Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen
arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu
biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd
eu hunain; b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd
tir llwyd ar sail gwerth eu defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol
os oes angen, pan nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair
blynedd neu fwy; ac c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth
i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell unigolion sy'n
dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod: a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau
adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol; b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu
hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd
gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni; c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng
2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o
gartrefi; d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa
Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi
gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai
a’u symud ymlaen yn gyflymach. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2.
Paul
Davies (Preseli Penfro) Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt b) a rhoi yn ei
le: 'archwilio cymhellion i awdurdodau lleol ac
asiantaethau cyhoeddus nodi safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer datblygu'. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6612
Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol
o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu
biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd
eu hunain; b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd
tir llwyd ar sail gwerth eu defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol
os oes angen, pan nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair
blynedd neu fwy; ac c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi
blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell
unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwynt
2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod: a)
penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn
2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol; b) y bydd 7
o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu
hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn
o gyllid rhaglenni; c) y bydd
£71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu
adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi; d) cynnydd
sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu
BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i
ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6612 Gareth Bennett (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu y gellir defnyddio
tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai
Cymru. 2. Yn cydnabod: a)
penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn
2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol; b) y bydd 7
o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu
hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn
o gyllid rhaglenni; c) y bydd
£71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu
adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi; d) cynnydd
sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu
BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i
ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.55 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6610
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Y diwydiant adeiladu yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 NDM6610 Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Y diwydiant adeiladu yng Nghymru |