Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15 - 09.30) |
Rhag-gyfarfod preifat |
|
(09.30 - 10.30) |
Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch TB Buchol Dr Gareth Enticott, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio - Prifysgol Caerdydd Cofnodion: Cafodd yr Aelodau gyflwyniad gan Dr Gareth
Enticott ar TB Buchol a gofynnwyd cwestiynau. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig ynghylch y materion a godwyd. |
|
(10.30 - 10.45) |
Trafod y Flaenraglen Waith Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor ar ei flaenraglen waith. Bydd yn cynnwys: -
gwneud
gwaith pellach ar yr ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru; -
ymgymryd â
gwaith ar ansawdd aer; -
trafod
Cynllun Morol arfaethedig Llywodraeth Cymru; a -
gwahodd
Prif Weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfarfod y Pwyllgor yn y
dyfodol. |
|
(10.45 - 11.15) |
Sesiwn friffio ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 Cofnodion: Cafodd yr
Aelodau eu briffio a gofynnwyd cwestiynau am y materion a godwyd. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Huw Irranca-Davies. |
||
(11.15 - 12.30) |
Craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig Dean Medcraft – Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau,
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Atebodd
Ysgrifennydd y Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion gwestiynau'r Aelodau. Cytunodd y Pwyllgor ar gyhoeddi adroddiad ar yr agweddau
ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chylch gorchwyl y
Pwyllgor. |
|
(12.30 - 12.35) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: Nododd yr
Aelodau y papurau. |
|
Llythyr i Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gwaredu gwaddod wedi'i dreillio ar y môr o dan drwydded forol 12/45/ML Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch penodi Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf |
||
(12.35 - 12.50) |
Trafodaeth breifat yn dilyn craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth, gan gytuno i ymdrin â sawl mater yn ei
adroddiad ar y Gyllideb ddrafft. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn am wybodaeth am ei
gyllideb net o ad-daliadau benthyciadau 'buddsoddi i arbed'. |