Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Oherwydd bod David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor wedi anfon ei ymddiheuriadau,
gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro yn unol â
Rheol Sefydlog 17.22. Enwebodd Gwyn Price John Griffiths, ac fe’i etholwyd. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones, Darren Millar a Kirsty Williams.
Dirprwyodd Andrew RT Davies ar ran Darren Millar. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd: briffio ffeithiol ar y Bil Sylweddau Seicoweithredol a datblygiadau perthnasol yr UE Chloe Dunnett, Uned Cyffuriau ac Alcohol – Y Swyddfa
Gartref Angela Scrutton, Uned Cyffuriau ac Alcohol – Y Swyddfa
Gartref Joe Shapiro, Uned Cyffuriau ac Alcohol – Y Swyddfa
Gartref Cofnodion: 2.1 Rhoddodd swyddogion sesiwn friffio ar y Ddeddf Sylweddau
Seicoweithredol a datblygiadau perthnasol yr UE i’r Aelodau. |
|
(10.40 - 11.10) |
Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd: briffio ffeithiol ar gynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru ‘Gweithio gyda’n gilydd i leihau niwed’ - 2016-2018 Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Camddefnyddio
Sylweddau – Llywodraeth Cymru Cofnodion: 3.1 Darparodd swyddogion sesiwn friffio ar gynllun cyflenwi Llywodraeth
Cymru ‘Gweithio gyda’n gilydd i leihau niwed’ - 2016-2018 i’r Aelodau. |
|
(11.10 - 11.30) |
Sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru: dilyniant i ymchwiliad y Pwyllgor i ofal preswyl i bobl hŷn ac adolygiad y Comisiynydd o gartrefi gofal: trafod y canlyniadau Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Weinidog, i’w gopïo i’r Comisiynydd ac
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, yn amodol ar fân
newidiadau. |
|
(11.30) |
Papurau i’w nodi |
|
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2016 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1a Nododd y Pwyllgor y cofnodion. |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2016-17: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi): gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |
||
Ymgynghoriad ar y Mesur Hawliau Prydeinig: gohebiaeth gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol at y Llywydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth. |