Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/03/2024 - Y Pwyllgor Biliau Diwygio

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30 - 10.00)

1.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): y dull o graffu yng Nghyfnod 1

Dogfennau ategol

Papur 1 – y dull o graffu yng Nghyfnod 1

Papur 2 – nodyn cyngor cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dull craffu a chytunodd arno.

(10.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

(10.00-11.30)

3.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd, Llywodraeth Cymru

Catrin Davies, Pennaeth Polisi Amrywiaeth, Diwygio'r Senedd, Llywodraeth Cymru

Anna Hind, Uwch-gyfreithiwr, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol

Briff Ymchwil

Papur 3 – Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 11 Mawrth 2024

 

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad Ysgrifenedig gan yr Aelod sy’n gyfrifol

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

-         Cadarnhad a yw Llywodraeth Cymru wedi ceisio cyngor cyfreithiol allanol ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).

-         Y costau i Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â’r achos olaf a ystyriwyd gan y Goruchaf Lys mewn perthynas â chymhwysedd deddfwriaethol Bil Senedd.

(11.30)

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Ymateb gan Gomisiwn y Senedd ynghylch Adroddiad Cyfnod 1 ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – 4 Mawrth 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.2

Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch yr Adroddiad Cyfnod 1 ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) – 5 Mawrth 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.

(11.30-11.45)

6.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.