Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/01/2024 - Pwyllgor y Llywydd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.4  Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(11.45 - 12.45)

2.

Gwaith craffu ar amcangyfrif atodol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2023-24

Y Fonesig Elan Closs Stephens CBE – Comisiynydd Etholiadol Cymru

 

Rob Vincent – Prif Weithredwr dros dro y Comisiwn Etholiadol

 

David Moran – Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Comisiwn Etholiadol

 

Rhydian Thomas – Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, y Comisiwn Etholiadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gyflwyno eu hamcangyfrif atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol yn fanwl ynghylch eu hamcangyfrif atodol ar gyfer 2023-24.

 

2.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar yr amcangyfrif fel rhan o'r ymgynghoriad sydd ei angen o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

 

2.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Etholiadol.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cafodd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) ei gytuno.

 

(12:45 - 13:00)

4.

Gwaith craffu ar amcangyfrif atodol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

5.

Papur i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Comisiwn Etholiadol.