Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/11/2023 - Pwyllgor y Llywydd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.

 

(9.00 - 10.30)

2.

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2024/25

Y Fonesig Elan Closs Stephens CBE – Comisiynydd Etholiadol Cymru

 

Shaun McNally CBE – Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol

 

David Moran – Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Comisiwn Etholiadol

 

Rhydian Thomas – Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, y Comisiwn Etholiadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gyflwyno eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 ac amcangyfrif atodol 2023-24.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ar eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer 2024-25.

 

2.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar yr amcangyfrif fel rhan o'r ymgynghoriad sy’n ofynnol o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

 

2.4 Nododd y Pwyllgor adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar yr etholiadau lleol a gynhaliwyd ym mis Mai 2023 a’i adroddiad ar gywirdeb a chyflawnrwydd cofrestrau etholwyr.

 

2.5 Nododd y Pwyllgor y ddau lythyr a gafwyd gan y Comisiwn Etholiadol ynghylch yr ymosodiad seiber a'r Prif Weithredwr.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(10.30 - 11.00)

4.

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2024/25 Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.