Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/11/2022 - Pwyllgor y Llywydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhys ap Owen; dirprwyodd
Llyr Gruffydd ar ei ran. 1.3 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
||
(9.00 - 10.00) |
Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2023/24 Y Fonesig Elan
Closs Stephens CBE – Comisiynydd Etholiadol Cymru Shaun McNally –
Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol Kieran Rix -
Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Comisiwn Etholiadol Rhydian Thomas,
Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru, y Comisiwn Etholiadol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o’r Comisiwn
Etholiadol i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am gyflwyno eu hamcangyfrif ariannol
ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 ac amcangyfrif atodol 2022-23. 2.2 Holodd y Pwyllgor gynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol
yn fanwl ar eu hamcangyfrif ariannol ar gyfer 2023-24 ac amcangyfrif atodol
2022-23. 2.3 Nododd y Pwyllgor lythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a
Gweinidog y Cyfansoddiad ar adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar y cynllun peilot
etholiadol. 2.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad ar yr amcangyfrif fel rhan o'r ymgynghoriad sydd ei
angen o dan baragraff 16A(8)(b) o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol,
Etholiadau a Refferenda 2000. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Cytunwyd ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42(vi). |
||
(10.00 - 11.00) |
Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2023/24 Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |