Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Huw Gapper
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2021 - Pwyllgor y Llywydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf Pwyllgor y Llywydd. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o
fuddiant. |
|
(10.35 - 10.40) |
Gweithdrefnau'r Pwyllgor a'i ffyrdd o weithio Cofnodion: 2.1 Nid yw’r
Rheolau Sefydlog yn galluogi Pwyllgor y Llywydd i ethol Cadeirydd dros dro,
felly cytunodd y Pwyllgor, pe bai'r Cadeirydd yn profi anawsterau technegol yn
ystod y cyfarfod, y byddai Peredur Owen Griffiths AS yn arwain y trafodaethau
yn ei absenoldeb. |
|
(10.40 - 10.45) |
Datganiad o Egwyddorion y Pwyllgor Cyllid ar gyfer cyrff a ariennir yn uniongyrchol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Ystyriodd y
Pwyllgor ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, a nodwyd ei fod wedi'i
fabwysiadu gan Bwyllgor y Llywydd y Bumed Senedd. 3.2 Cytunodd y
Pwyllgor i fabwysiadu datganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid a gofynnodd fod
y Comisiwn Etholiadol yn rhoi sylw iddo wrth baratoi ei gynigion cyllidebol. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd y
Pwyllgor lythyr gan Weinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y Cyfansoddiad a
Datganoli ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU. 4.2 Nododd y
Pwyllgor hefyd bapurau briffio a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar Fil
Etholiadau Llywodraeth y DU. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Cytunwyd ar y
cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill
y cyfarfod. |
||
(10.45 - 11.45) |
Sesiwn friffio technegol: Swyddogaethau Pwyllgor y Llywydd a'i gefndir deddfwriaethol Cofnodion: 6.1 Cafodd
aelodau’r Pwyllgor friff technegol ar swyddogaethau a chefndir deddfwriaethol y
Pwyllgor. |
|
(11.45 - 12.30) |
Trafod gohebiaeth ynghylch Bil Etholiadau Llywodraeth y DU Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor lythyr gan Chloe Smith AS, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros y
Cyfansoddiad a Datganoli ar y pryd yn gofyn barn y Llywydd ynghylch Bil
Etholiadau Llywodraeth y DU. 7.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ymateb i'r llythyr ac anfon copi at Weinidogion perthnasol Cymru a'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Llywodraeth
Leol a Thai ar gyfer eu hystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. |