Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. 1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant, na dirprwyon.
Esgusododd Peredur Owen Griffiths ei hun ar gyfer yr eitem olaf. |
||
(9.30 - 10.00) |
Adroddiad Cydymffurfio Grwpiau Trawsbleidiol Cofnodion: 2.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnig i’r Llywydd y dylai
gymryd drosodd y cyfrifoldeb am anfon llythyrau atgoffa at y Cadeiryddion
ynghylch y rheolau ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion y
Grwpiau Trawsbleidiol nad ymddengys eu bod wedi bod yn weithredol o gwbl dros y
flwyddyn ddiwethaf i gadarnhau eu sefyllfa a gofyn am waith papur sy’n weddill. 2.3. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion
grwpiau a oedd wedi’u cofrestru’n hwyr, i’w hatgoffa o’u dyletswyddau fel
Cadeiryddion ac i ofyn am waith papur sy’n weddill. 2.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeiryddion
grwpiau nad oeddent wedi cydymffurfio ers dwy flynedd i roi gwybod iddynt y
gallant gael eu datgofrestru os na fyddant yn cydymffurfio am drydedd flwyddyn.
2.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr holl Aelodau
yn eu hatgoffa o’r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol yn ogystal â’u
cyfrifoldebau fel Cadeiryddion y Grwpiau. |
|
(10.00 - 10.20) |
Urddas a pharch Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd. 3.2 Trafododd y Pwyllgor y rhestr o dystion posibl ar
gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arni gyda rhai ychwanegiadau. |
|
(10.20 - 10.30) |
Canllawiau lobïo diwygiedig Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y canllawiau diwygiedig. |
|
(10.30 - 11.00) |
Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd
Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i). |