Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2025 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Carolyn Thomas AS ddatganiad o fuddiant perthnasol.

(09.00-10.30)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 - Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Claire Bennett, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd a Cynaliadwyedd Amgylcheddol - Llywodraeth Cymru

Jamie Powell, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid - Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a swyddogion.

(10.45-12.15)

3.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Peter McDonald, Cyfarwyddwr, Seilwaith Economaidd – Llywodraeth Cymru

Christopher Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Trafnidiaeth – Llywodraeth Cymru

Andy Falleyn, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi Seilwaith – Llywodraeth Cymru

Steve Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr, Economi, Ynni a Thrafnidiaeth – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru a swyddogion.

(12.15)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

4.1

Adfer safleoedd glo brig

Dogfennau ategol:

4.2

Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

4.3

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

Dogfennau ategol:

4.4

Deiseb P-06-1478 Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru

Dogfennau ategol:

4.5

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26

Dogfennau ategol:

4.6

Cynllun Masnachu Allyriadau y DU (UKETS) - Fframwaith Cyffredin

Dogfennau ategol:

4.7

Craffu cyffredinol ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth

Dogfennau ategol:

(12.15)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o ddechrau’r cyfarfod ar 23 Ionawr

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

6.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 ac eitem 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2 ac 3.

7.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig).