Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/07/2021 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd
a Seilwaith. |
|
Cylch gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor y papur ar ei gylch gorchwyl. |
||
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
||
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a seilwaith Dogfennau ategol: |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd Dogfennau ategol: |
||
(10.35) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 6 o'r cyfarfod heddiw Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. . |
|
Trafod y ffyrdd y bydd y Pwyllgor yn gweithio ac yn cynllunio gwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Ystyriodd a
thrafododd y Pwyllgor ei bapur ar fusnes cynnar a chynllunio strategol. 5.2 Cytunodd y
Pwyllgor i lansio ymgynghoriad dros doriad yr haf i gael barn am ei
flaenoriaethau. |
||
Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Cafodd yr
Aelodau friff cyfreithiol a thrafodwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch
Bil yr Amgylchedd. |
||
(11.30-12.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd: craffu ar waith y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd Bernadette Payne,
Gwasanaethau Cyfreithiol Eifiona Williams,
Pennaeth Dŵr
Howard Davies,
Rheolwr yr Economi Gylchol Jayne Anstee,
Rheolwr Polisi Rheoliadau Gwastraff Olwen Spiller, Pennaeth
Ansawdd yr Amgylchedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Bu’r Aelodau
yn holi y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd. |
|
(12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 9 o’r cyfarfod heddiw Cofnodion: 8.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 7 a thrafod y camau nesaf o ran Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 7 a chytunwyd i ysgrifennu at y
Gweinidog Newid Hinsawdd i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd
yn ystod y sesiwn. |