Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Hunt 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/11/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

(09:30-10:45)

2.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio

Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai

Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu amserlen ddangosol ar gyfer cyflwyno Bil yn ymwneud â digartrefedd.

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o'r 5,575 o dai fforddiadwy newydd a ddarparwyd ers 2021, gan gynnwys faint o'r rhain sy'n cyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

 

2.4 Cytunodd y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr uwchgynhadledd sydd ar ddod yn ymwneud â ffosffadau mewn afonydd.

 

2.5 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu ffigur mewn perthynas â nifer y bobl sy'n manteisio ar y cynllun Cymorth i Aros.

 

 

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan Anabledd Cymru - Cyllideb Ddrafft 2024-25

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a  Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.3

Llythyr at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.45-11.15)

5.

Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 

(11.15-11.30)

6.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.