Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/12/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai. 1.2. Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant. |
|
(09.00 - 10.15) |
Digartrefedd – sesiwn dystiolaeth 5 – y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd Amelia John,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Adran Polisi Tai,
Llywodraeth Cymru Sarah Rhodes,
Pennaeth atal Digartrefedd, Llywodraeth Cymru Emma Williams,
Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd Amelia John, Cyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai,
Llywodraeth Cymru Sarah Rhodes, Pennaeth Atal Digartrefedd, Llywodraeth
Cymru Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru 2.2. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog mewn
perthynas â materion sy’n ymwneud â phwysau’r gaeaf. 2.3. Gofynnodd y Pwyllgor i’r Gweinidog am ragor o
wybodaeth ynghylch pam mai dim ond chwe awdurdod lleol sydd wedi cyflwyno
Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym i Lywodraeth Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac o’r cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 14 Rhagfyr 2022 Cofnodion: 3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.30 - 11.30) |
Digartrefedd – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a thrafod y materion allweddol. Cofnodion: 4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
a’r materion allweddol, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog mewn perthynas
â nifer o’r materion a godwyd. |
|
(11.30 - 11.35) |
Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio). Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad. |