Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/06/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

(09.00 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – sesiwn dystiolaeth 5: Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Chrishan Kamalan, Pennaeth Polisi Hil a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Llywodraeth Cymru

James Searle, Pennaeth y Tîm Trosedd a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Chrishan Kamalan, Pennaeth Polisi Hil a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Llywodraeth Cymru

James Searle, Pennaeth y Tîm Trosedd a Chyfiawnder, Llywodraeth Cymru

 

2.2.  Cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i rannu â’r Pwyllgor y llythyr y bydd yn ei anfon at arweinwyr y cynghorau ynghylch Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, ac i ddarparu rhagor o wybodaeth am bartneriaeth Llywodraeth Cymru â’r Sefydliad Banc Tanwydd.

 

(10.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 ac 8

Cofnodion:

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.15 - 10.30)

4.

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

(10.40 - 11.30)

5.

Cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin – sesiwn dystiolaeth 1

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gaynor Toft, Pennaeth dros dro Tai a Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Sir Penfro

Anne Hubbard, Rheolwr, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gaynor Toft, Pennaeth dros dro Tai a Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd, Cyngor Sir Penfro

Anne Hubbard, Rheolwr, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru

(11.35 - 12.25)

6.

Cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin – sesiwn dystiolaeth 2

Reynette Roberts, Prif Weithredwr, Oasis

Natalie Zhivkova, Swyddog Polisi Gwirfoddoli, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr, Cytûn – Eglwysi ynghyd yng

Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Reynette Roberts, Prif Weithredwr, Oasis

Natalie Zhivkova, Swyddog Polisi Gwirfoddoli, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr, Cytûn – Eglwysi ynghyd yng Nghymru

(12.20)

7.

Papur(au) i’w nodi

Dogfennau ategol:

7.1

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.1. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin.

(12.25 - 12.30)

8.

Cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6.