Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/10/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. 1.3 Dywedodd Samuel Kurtz AS ei fod yn un o gyfarwyddwyr
Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. |
|
(10.00) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Weinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Dogfennau ategol: |
||
(10.00-12.00) |
Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 Lesley Griffiths
AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd James Owen,
Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Diwygio Rheoli Tir Hannah Fernandez,
Pennaeth Cyfarwyddiadau Polisi Diwygio Rheoli Tir, yr Is-adran Diwygio Rheoli
Tir Dorian Brunt,
Uwch Gyfreithiwr, Tîm Materion Gwledig William (Bill)
Cordingley, Cyfreithiwr Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog
Materion Gwledig a Gogledd Cymru. 3.2 Byddai’r Pwyllgor yn cael nodyn yn cadarnhau bod y
Gweinidog o’r farn nad yw darpariaethau adran 28 o Fil Amaethyddiaeth (Cymru) -
yn ymwneud â’r dibenion y gellir prosesu gwybodaeth ar eu cyfer - yn cynnwys
gwerthu data i drydydd partïon. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.00-12.20) |
Preifat Trafod
tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn dystiolaeth flaenorol gyda’r Gweinidog. |