Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/10/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

1.3 Dywedodd Samuel Kurtz AS ei fod yn un o gyfarwyddwyr Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

 

 

(10.00)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan Weinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

(10.00-12.00)

3.

Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1

Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

James Owen, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Diwygio Rheoli Tir

Hannah Fernandez, Pennaeth Cyfarwyddiadau Polisi Diwygio Rheoli Tir, yr Is-adran Diwygio Rheoli Tir

Dorian Brunt, Uwch Gyfreithiwr, Tîm Materion Gwledig

William (Bill) Cordingley, Cyfreithiwr

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru.

3.2 Byddai’r Pwyllgor yn cael nodyn yn cadarnhau bod y Gweinidog o’r farn nad yw darpariaethau adran 28 o Fil Amaethyddiaeth (Cymru) - yn ymwneud â’r dibenion y gellir prosesu gwybodaeth ar eu cyfer - yn cynnwys gwerthu data i drydydd partïon.

 

 

 

(12.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00-12.20)

5.

Preifat

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

 

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol gyda’r Gweinidog.