Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/01/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
09.30 |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Hannah Blythyn AS. |
|
09.30 |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
|
|
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Data (Defnydd a Mynediad) Dogfennau ategol: |
||
09.30 - 10.30 |
Llwybrau prentisiaeth - Panel 1 - Trosolwg Strategol Rhian Edwards,
Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi, Medr Harriet Barnes,
Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Sgiliau, Medr
Sharron Lusher,
Cyn Gadeirydd, Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Rhian Edwards (Medr), Harriet Barnes (Medr), a Sharron
Lusher (Cyn Gadeirydd, Bwrdd Adolygu Cymwysterau Galwedigaethol). |
|
10.40 - 11.40 |
Llwybrau prentisiaeth - Panel 2 - Colegau a Darparwyr Prentisiaethau Dr Barry Walters,
Pennaeth Coleg Sir Benfro a Chadeirydd Grŵp Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith a
Chyflogadwyedd, Colegau Cymru Lisa Mytton,
Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Grant Santos,
Prif Swyddog Gweithredol, Grŵp
Hyfforddi Educ8 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Barry Walters (Coleg Sir Benfro a Cholegau Cymru),
Lisa Mytton (Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru), a Grant Santos (Grŵp Hyfforddi Educ8). |
|
11.50 - 12.50 |
Llwybrau prentisiaeth - Panel 3 - Gwybodaeth am Brentisiaethau Nerys Bourne,
Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau, Gyrfa Cymru Amie Field,
Pennaeth Gwasanaethau i Bobl Ifanc, Gyrfa Cymru Jamie Cater, Uwch
Reolwr Polisi (Cyflogaeth), Make UK Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Nerys Bourne (Gyrfa Cymru), Amie Field (Gyrfa Cymru),
a Jamie Cater (Make UK). |
|
12.50 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
12.50 - 13.00 |
Llwybrau prentisiaeth: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan Eitemau 3, 4 a 5. 7.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at dri rhanddeiliad dethol i gael rhagor o wybodaeth, ar
ôl trafod pynciau a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth. |
|
13.30 - 13.50 |
Economi werdd - Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 8.1 Cytunodd y
Pwyllgor i ohirio ystyried yr adroddiad drafft tan ei gyfarfod nesaf, er mwyn
caniatáu rhagor o amser i drafod yr adroddiad yn llawn. |
|
13.50 - 14.05 |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 - Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac, ar ôl awgrymu un newid, penderfynodd gytuno
ar yr adroddiad terfynol drwy ohebiaeth. |
|
14.05 - 14.35 |
Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE - Briff Cofnodion: 10.1 Trafododd y
Pwyllgor y dull rapporteur traws-bwyllgor a argymhellir ar gyfer y gwaith ar yr
Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu
rhwng y DU a’r UE, a chytunodd i symud ymlaen gyda'r camau nesaf a awgrymir. |
|
14.35 - 14.40 |
Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm: trafod y papur cwmpasu Cofnodion: 11.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y papur cwmpasu, ac awgrymodd gynnwys un tyst arall yn ystod y
sesiwn dystiolaeth lafar arfaethedig. |
PDF 379 KB