Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2024 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00-10.00) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafodaeth breifat gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal Bydd y Pwyllgor
yn cynnal digwyddiad preifat gyda phobl Ifanc sydd â phrofiad o ofal. Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaeth breifat â phobl
ifanc sydd â phrofiad o ofal. |
|
(10.10) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r
cyfarfod. 2.2 Datganodd Mabon ap Gwynfor AS fod ei wraig yn
gweithio i’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, sy’n elusen. |
|
(10.10-10.30) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth gyda phobl ifanc o Voices from Care Cofnodion: 3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda phobl
ifanc o Voices from Care. |
|
(10.40-11.40) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau sy'n cefnogi plant mewn gofal Helen Mary Jones,
Voices From Care Cymru Sharon Lovell,
Prif Swyddog Gweithredol – NYAS Cymru Rhiannon
Beaumont-Walker, Prif Weithredwr – TGP Cymru
Papur 3 – TGP
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan sefydliadau sy’n
cefnogi plant mewn gofal. |
|
(11.45-12.25) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr byrddau iechyd lleol Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
byrddau iechyd lleol. |
|
(12.25) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol a'r sesiwn dystiolaeth ar Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ar 12 Mehefin 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol i'r Cadeirydd yn dilyn y sesiwn graffu gyffredinol ar 12 Mehefin 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol i'r Cadeirydd yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) ar 12 Mehefin 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch cynigion i wella iechyd amgylcheddau bwyd yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: craffu ar ôl y broses ddeddfu Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.5 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
(12.25) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn, ac ar gyfer eitemau 1-3 yn y cyfarfod ar 17 Gorffennaf 2024, er mwyn ystyried blaenraglen waith y pwyllgor, sef yr adroddiad monitro drafft diweddaraf ar amseroedd aros y GIG, a'r adroddiad drafft ar y sesiwn graffu gyffredinol gydag Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Cofnodion: 7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(12.25-12.30) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |