Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfeirnod: O bell
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2024 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(09.30) |
Cynnig i benodi Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22 Cofnodion: 1.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, gwnaeth y Pwyllgor
ethol Sam Rowlands AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod heddiw, ac ar
gyfer y ddau gyfarfod sy’n weddill yn ystod y tymor hwn. |
|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1
Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr
Aelodau i'r cyfarfod. 2.2
Cadarnhaodd y Cadeirydd dros dro y
byddai Joyce Watson AS yn dirprwyo yn ei le petai ei gysylltiad yn cael ei
golli ar unrhyw adeg yn ystod y cyfarfod. 2.3
Cafwyd ymddiheuriadau gan Russell
George AS. Roedd Gareth Davies AS yn bresennol fel dirprwy. |
|
(09.30-10.30) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant – sesiwn dystiolaeth gyda darparwyr nid-er-elw Rhian Carter,
Rheolwr Tîm - Gweithredu dros Blant Sarah Thomas,
Prif Weithredwr - y Rhwydwaith Maethu Mike Anthony, Rheolwr
Gwasanaeth – Gwasanaeth Maethu Cymru, TACT Cymru Briff Ymchwil Papur 1 – Gweithredu
dros Blant Papur 2 –
Barnardo’s Cymru Papur 3 – Y
Rhwydwaith Maethu Papur 4 – TACT
Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ddarparwyr
nid-er-elw. |
|
(10.40-11.40) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant – sesiwn dystiolaeth gyda darparwyr preifat ac annibynnol a chyrff cynrychioliadol Harvey Gallagher,
Prif Weithredwr - Cymdeithas Darparwyr Maethu Ledled y Wlad Colin Tucker,
Cyfarwyddwr/Unigolyn Cyfrifol – Gwasanaethau Maethu Cysylltiad 1af y Gymdeithas
Darparwyr Maethu Ledled y Wlad Sharon Cavaliere,
Cyfarwyddwr Calon Cymru - Cymdeithas Darparwyr Maethu
Ledled y Wlad Jen Robbins,
Pennaeth Polisi a Strategaeth – The
Children’s Homes Association Darryl Williams -
Cyfarwyddwr - Woodlands Ltd – The Children’s Homes Association Dr Deborah Judge,
Cyfarwyddwr Clinigol ac Unigolyn Cyfrifol - Birribi – The Children’s Homes
Association Papur 5 – Cymdeithas
Darparwyr Maethu Ledled y Wlad Papur 6 – The
Children’s Homes Association Dogfennau ategol: |
|
(11:40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 5 a 9 o’r cyfarfod heddiw Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(11.40-11.50) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(12.30-13.30) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant – sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Sally Jenkins, Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion
Cymru Gyfan, Cyngor Bro Morgannwg – ADSS Cymru Craig Macleod – Pennaeth
Gwasanaethau Plant, Cyngor Sir y Fflint ac Is-gadeirydd Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru
Gyfan (Pennaeth Gwasanaethau Plant Cymru
Gyfan) – ADSS
Cymru Darren Mutter,
Pennaeth Gwasanaethau Plant, Cyngor Sir Penfro – ADSS Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas
Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 7.2 Cytunodd Sally Jenkins i roi manylion i'r Pwyllgor
ynghylch lle mae darpariaeth awdurdodau lleol wedi cynyddu o ganlyniad i'r
dyraniad cyllid ychwanegol. |
|
(13.40-14.40) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd – sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Jason Bennett,
Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion - Cyngor Sir Bro Morgannwg a
Chadeirydd Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion
Cymru Gyfan –
Penaethiaid Oedolion Cymru Gyfan – ADSS Cymru Zoe Williams,
Cadeirydd – Fforwm Taliadau Uniongyrchol Cymru Gyfan Mark Cooper,
Dirprwy Gadeirydd – Fforwm Taliadau Uniongyrchol Cymru Gyfan
Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas
Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru |
|
(14:40) |
Papurau i'w nodi |
|
|
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ynghylch elw mewn cartrefi gofal oedolion Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
|
Ymateb gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch elw mewn cartrefi gofal oedolion Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
|
Llythyr gan y Cadeirydd at Judith Paget CBE, Prif Weithredwr GIG Cymru, ynghylch amseroedd aros gofal wedi'i gynllunio GIG Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
|
Ymateb gan Judith Paget CBE, Prif Weithredwr GIG Cymru, i'r Cadeirydd ynghylch amseroedd aros gofal wedi'i gynllunio GIG Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
|
Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor, 'Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru' Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
|
Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor, ‘Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru' Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.6 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.7 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
|
Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch Datganiad o Fwriad Polisi ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.8 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Cadeirydd ynghylch y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.9 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
|
Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar ryddhau cleifion o ysbytai, ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.10 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
|
Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar ryddhau cleifion o ysbytai, ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai Dogfennau ategol: Cofnodion: 9.11 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
(14.40-14.50) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
PDF 319 KB