Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig: Hybrid
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/01/2024 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
(09.30-10.15) |
Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru Briff ymchwil Papur 1 –
Holiadur gwrandawiad cyn penodi Papur 2 –
Datganiad personol a CV Papur 3 – Papur
briffio Llywodraeth Cymru Papur 4 –
Gwybodaeth i ymgeiswyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dyfed Edwards, yr
ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4 a 7 o gyfarfod heddiw ac ar gyfer y cyfarfod ar 1 Chwefror 2024 Cofnodion: 3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(10.15-10.30) |
Gwrandawiad cyn penodi: trafod y dystiolaeth Papur 5 – adroddiad
drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 4.2 Byddai’r Pwyllgor yn cytuno ar ei adroddiad drwy
e-bost, cyn ei gyhoeddi ddydd Gwener 26 Ionawr. |
|
(10.45-12.00) |
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru Yr Athro Jim
McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant – Iechyd Cyhoeddus Cymru Briff ymchwil Papur 6 – Iechyd
Cyhoeddus Cymru Papur 7 – Iechyd
Cyhoeddus Cymru (gwybodaeth ychwanegol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Iechyd Cyhoeddus Cymru. 5.2 Cytunodd yr Athro McManus i ysgrifennu at y Pwyllgor
ynghylch y materion a ganlyn; · pa glefydau prin a chyflyrau cronig y mae babanod newydd-anedig yn cael eu
sgrinio ar eu cyfer · canfyddiadau'r adolygiad o'r cynllun cenedlaethol atgyfeirio cleifion i
wneud ymarfer corff · gwybodaeth am sut y gwnaeth y Ffindir wrthdroi ei chyfraddau clefyd y galon · enghreifftiau pellach o feysydd a all gefnogi gwaith atal nad oes ganddynt
gost ariannol neu sydd mewn gwirionedd yn dod ag arbediad ariannol. |
|
(12.00) |
Papurau i'w nodi |
|
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, gyda chwestiynau dilynol o'r sesiwn graffu gyffredinol ar waith y Gweinidogion ar 8 Tachwedd 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i’r Cadeirydd, gyda chwestiynau dilynol o'r sesiwn graffu gyffredinol ar waith y Gweinidogion ar 8 Tachwedd 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
(12.00-12.15) |
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |