Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig

Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig

Inquiry2

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i gefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig.

 

 

Beth yw cyflyrau cronig?

 

Mae'r term 'cyflyrau cronig' (a elwir hefyd yn 'gyflyrau hirdymor' neu’n 'salwch hirdymor') yn cynnwys ystod eang o gyflyrau iechyd na ellir eu gwella yn aml ond y gellir eu rheoli gyda'r cymorth a'r driniaeth gywir. Mae llawer o bobl hefyd yn byw gyda chydafiechedd (dau gyflwr cronig neu fwy). Gall gwahanol grwpiau o bobl a phobl o wahanol gefndiroedd ddioddef anghydraddoldebau hefyd oherwydd eu cyflwr neu o ran mynediad at wasanaethau neu gymorth.

 

Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd?

 

Oherwydd cymhlethdod y materion hyn a'r amrywiaeth eang o gyflyrau cronig a all fod ar bobl, rydym yn defnyddio dull dau gam ar gyfer ein gwaith.

 

Yn ystod cyfnod 1 o’n gwaith gwnaethom ofyn i chi am eich help i nodi'r themâu a'r materion allweddol y dylem ganolbwyntio arnynt, o fewn y meysydd eang a ganlyn:

 

Y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol

>>>> 

>>>Parodrwydd gwasanaethau lleol y GIG a gofal cymdeithasol i drin pobl sydd â chyflyrau cronig yn y gymuned;

>>>Mynediad at wasanaethau hanfodol a thriniaeth barhaus, ac unrhyw rwystrau mae rhai grwpiau’n eu hwynebu, gan gynnwys menywod, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl;

>>>Cymorth sydd ar gael i alluogi hunanreoli effeithiol lle bo'n briodol, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl;

<<< 

 

Cyflyrau lluosog

>>>> 

>>>Gallu’r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol i ymateb i unigolion â chydafiechedd yn hytrach na chanolbwyntio ar gyflyrau unigol ar wahân;

>>>Y rhyngweithio rhwng cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd corfforol hirdymor;

<<< 

        

Effaith ffactorau ychwanegol

>>>> 

>>>Effaith y pandemig ar ansawdd gofal ar draws cyflyrau cronig;

>>>Effaith y cynnydd mewn costau byw ar iechyd a lles pobl sydd â chyflyrau cronig

>>>I ba raddau y bydd gan wasanaethau'r capasiti i ateb y galw yn y dyfodol o ran poblogaeth sy'n heneiddio

<<< 

 

Atal a ffordd o fyw

>>>> 

>>>Camau i wella atal ac ymyrraeth gynnar (i atal iechyd a lles pobl rhag gwaethygu);

>>>Effeithiolrwydd y mesurau presennol i ymdrin â ffactorau ffordd o fyw/ymddygiad (gordewdra, ysmygu ac ati), ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a rhwystrau mae rhai grwpiau’n eu hwynebu.

<<< 

 

Cyfnod 2: Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig

 

Diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad cyfnod 1. Mae eich ymatebion wedi rhoi tystiolaeth werthfawr i’r Pwyllgor i lywio’r ymchwiliad hwn yn ogystal â gwaith yn y dyfodol.

 

Neges gyffredinol glir o'r ymgynghoriad oedd yr angen i wella gofal cyfannol sy'n canolbwyntio ar unigolion, ac i roi'r gorau i ganolbwyntio ar gyflyrau unigol ar wahân i’w gilydd.

 

Symud o weledigaeth i’r cam gweithredu – sut i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion ar gyfer cyflyrau cronig

 

Mae’r weledigaeth o ofal sy’n canolbwyntio ar unigolion yn cael ei rhannu’n eang, ond sut gallwn fwrw ymlaen â’r broses o’i rhoi ar waith yn ymarferol i gefnogi pobl â chyflyrau cronig yn well?

 

Ac a yw Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn gwneud digon i fynd i'r afael â heriau'r nifer gynyddol o bobl sy'n byw gyda chyflyrau lluosog a sut i'w trin yn gyfannol?

 

Nod yr ymchwiliad hwn yw nodi camau ymarferol a all gyflawni gwelliannau i alluogi gwasanaethau i ganolbwyntio ar y person cyfan, nid ei gyflyrau unigol.

 

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ymchwilio i weld a oes modd dysgu gwersi o’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer cyflyrau penodol neu grwpiau o bobl, er enghraifft diabetes, ac mae’r gofal i blant ag anghenion cymhleth, pobl hŷn neu rai clefydau prin wedi cael sylw cadarnhaol.

 

Cylch Gorchwyl

 

Sut i gyflawni’r weledigaeth o ofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar unigolion i bobl â chyflyrau cronig.  Beth sydd angen ei newid i wella profiadau a chanlyniadau i bobl. Mae hyn yn cynnwys:

>>>> 

>>>Yr hyn sydd ei angen fel bod gwasanaethau’n gallu diwallu anghenion pobl â chyflyrau lluosog yn well (cyfeirir at hyn fel “amlafiachedd”).

>>>Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a’r rhwystrau y mae rhai grwpiau’n eu hwynebu, gan gynnwys pobl sy'n byw mewn tlodi a phobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol.

>>>Enghreifftiau o arfer da o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i bobl â chyflyrau lluosog y gellid eu prif ffrydio i bolisïau a darpariaeth.

>>>Cymorth sydd ei angen i alluogi hunanreolaeth effeithiol o gyflyrau cronig lle bo'n briodol, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl.

>>>Camau blaenoriaeth sydd eu hangen i wella ataliaeth ac ymyrraeth gynnar.

<<< 

 

Mae’r dull hwn yn galluogi’r Pwyllgor i archwilio’r themâu cyffredin a’r argymhellion ar gyfer gwella, a allai, pe baent yn cael eu rhoi ar waith, helpu pobl ag amrywiaeth o gyflyrau cronig gwahanol, yn ogystal â’r nifer gynyddol o bobl sy’n byw gyda chyflyrau lluosog.

 

Yn y flwyddyn newydd byddwn yn cymryd tystiolaeth bellach gan gynnwys ymgysylltu â phobl â chyflyrau cronig yn uniongyrchol, grwpiau ffocws rhanddeiliaid gyda sefydliadau sy’n cynrychioli ystod o gyflyrau cronig, a sesiynau tystiolaeth lafar ffurfiol.

 

Ymgynghoriadau

>>>> 

>>>Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig  (cwblhawyd)

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/03/2023

Dogfennau