Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/01/2026 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Nododd y Cadeirydd nad oedd James Evans AS bellach yn aelod o'r Pwyllgor a diolchodd iddo am ei gyfraniadau.

 

(9.30-11.00)

2.

Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Gwasanaethau Cymdeithasol

Denise Moultrie, Pennaeth y Polisi Gofal Cartref a Gofalwyr Di-dâl

 

Briff Ymchwil

Papur 1: Cyflwyno tystiolaeth Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu data ar y canlynol:-

·         Y cynllun gweithredu gofalwyr di-dâl, sy'n cael ei arwain gan  Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru;

·         Pa ofal seibiant y mae awdurdodau lleol yn ei gynnig i ofalwyr sydd wedi cael eu nodi fel rhai sydd angen gofal seibiant.

 

(11.00)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Llythyr oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ynglŷn â chyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynglŷn â Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonate monohydrad) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.3

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â phenodi Cadeirydd Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.00-11.30)

5.

Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Adolygodd a thrafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd ar faterion allweddol i'w cynnwys yn yr adroddiad drafft.