Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl
Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn cynnal ymchwiliad i wella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl
Mae tystiolaeth
wedi dangos nad yw'r dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol (o dan Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) i asesu a chefnogi gofalwyr
cymwys yn cael eu gweithredu fel y bwriadwyd.
Mae'r diffyg
Asesiadau Gofalwyr sy’n cael eu cynnal wedi cael sylw sylweddol eisoes. Nid
yw'r Pwyllgor am fynd dros hen dir yn yr ymchwiliad hwn, felly bydd yn
canolbwyntio yn hytrach ar ddarparu cymorth statudol i ofalwyr di-dâl, a
mynediad at gymorth o’r fath, yn enwedig gofal seibiant.
Nod yr ymchwiliad
fydd archwilio’r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau gofal seibiant i ofalwyr
di-dâl ledled Cymru, a’r mynediad atynt, a nodi newidiadau i wella’r gefnogaeth
statudol, a galluogi gofalwyr di-dâl i allu byw yn ogystal â gofalu. Mae hyn yn
cynnwys:
>>>>
>>> y
prif rwystrau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu wrth gael gafael ar y
gefnogaeth sydd ei hangen arnynt; gan gynnwys unrhyw heriau penodol i ofalwyr
yn seiliedig ar ffactorau fel oedran, ethnigrwydd neu ble maen nhw'n byw;
>>> y
graddau y mae gofal seibiant ar gael ledled Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys
faint o amrywiad sydd ar draws y rhanbarthau;
>>> i ba
raddau y mae'r galw am wasanaethau cymorth i ofalwyr yn cael ei asesu ac yn
cael sylw, a, beth yw lefel yr anghenion sydd heb eu diwallu ar hyn o bryd;
>>> rôl
Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wrth ddarparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, ac
effeithiolrwydd arferion comisiynu gwasanaethau ar hyn o bryd;
>>> y
camau gweithredu sydd eu hangen i wella gweithrediad darpariaethau Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gyfer gofalwyr di-dâl (gan
gynnwys Asesiadau Gofalwyr a chynlluniau cymorth).
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/07/2025
Ymgynghoriadau
- Gwella mynediad at gymorth i ofalwyr di-dâl (Wedi ei gyflawni)